4 CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 290 KB
Distyllfa Aber Falls, Station Road, Abergwyngregyn
I ystyried y cais
Penderfyniad:
Caniatáu y cais
Cofnod:
Ar ran yr eiddo: Christopher
James Wright (Ymgeisydd)
Eraill a wahoddwyd: Ffion Muscroft
– Swyddog Iechyd yr Amgylchedd
Joan Underwood, Nicolette Whiting ac Ann
Pennell (Ymgynghorai Lleol)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan
bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am amrywio trwydded eiddo ar gyfer
Distyllfa Aber Falls, Station Road, Abergwyngregyn. Gwnaed y cais mewn perthynas
â gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr
eiddo, dangos ffilmiau, cerddoriaeth byw a wedi recordio,
perfformiadau dawns a darparu lluniaeth hwyr y nos.
Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad.
Amlygwyd, ers cyhoeddi’r adroddiad bod yr ymgeisydd wedi
cytuno i oriau cyfyngedig ac felly ystyriwyd y cais fel un diwygiedig. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu
tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd
yr ymgeisydd yn ei argymell
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn
cael eu cynnwys
ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan nodi nad
oedd gan yr Heddlu na’r
Gwasanaeth Tân wrthwynebiadau. Roedd yr ymgeisydd hefyd
wedi cytuno i amodau Adran
Gwarchod y Cyhoedd o ran cyfaddawdu gyda’r oriau agor.
b)
Wrth
ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded.
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
c)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd
yr ymgeisydd ei fod yn
hapus gyda’r hyn oedd wedi
ei gyflwyno.
Ategodd y sylwadau
canlynol:
·
Ei fwriad
oedd cydweithio gyda’r gymuned
·
Nid bar oedd dan sylw ond
Bistro gydag alcohol yn cael ei weini
gyda bwyd yn unig. Y Bistro yn cynnwys ardal
ar gyfer eistedd hyd at 35 o bobl
·
Bydd
digwyddiadau arbennig ar gyfer marchnata / hybu bwydydd a chynnyrch lleol yn
cael eu cynnal yn y Ganolfan Groeso – bydd rhain yn ddigwyddiadau drwy
wahoddiad yn unig
·
Bydd y
Ganolfan Groeso yn lwyfan i arddangos cynnyrch lleol
·
Bod
rheolau llym a canllawiau gweithredu yn eu lle i reoli niferoedd yn yr ardal
cynhyrchu
·
Bod
defnydd o rybudd digwyddiad dros dro yn addas ar gyfer digwyddiadau arbennig
·
Nid
canolfan ar gyfer adloniant yw’r bwriad ond canolfan bwyd a diod
ch) Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i
ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a
gyflwynwyd trwy lythyr.
Joan Underwood
·
Ei bod
yn byw llai na 100 llath o’r Ddistyllfa
· Y fenter yn debygol o amharu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4