Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 07/12/2020 - Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth (eitem 6)

6 YMGYNGHORIAD CYD BWYLLGOR CORFFORAETHOL GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 305 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro – Awdurdod Arweiniol, i hysbysu’r Is -Fwrdd o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill.

 

I ddilyn, caiff diweddariad ei gyflwyno gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

Penderfyniad:

           

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

Cofnod:

           

 

Cyflwynwyd yr eitem gan Iwan G D Evans – Swyddog Monitro yr Awdurdod Arweiniol.

 

PENDERFYNIAD

  

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth yn y papur, gan mai papur ydoedd i  hysbysu’r Is-Fwrdd o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill.

 

 

TRAFODAETH

 

Nododd Y Swyddog Monitro mai diben yr eitem oedd hysbysu yr Is-Fwrdd o’r ymgynghoriad sydd ar y gweill. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y papur roedd wedi ei baratoi oedd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar gynigion i sefydlu Cyd Bwyllgorau Corfforedig (CBC) fesul 4 Ardal o Gymru ar sail ôl troed (Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Orllewin Cymru a De Ddwyrain Cymru).

 

O fewn y Bil, mae dau gategori o CBC sef CBC drwy Orchymyn a CBC drwy Gais.  Cyfyngir y meysydd posib ar gyfer CBC Drwy Orchymyn ar gyfer 4 maes sef gwella addysg, trafnidiaeth (Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol), y swyddogaeth o lunio Cynllun Datblygu Strategol a’r swyddogaeth llesiant economaidd.

 

Cadarnhawyd bod CBC yn gyrff corfforedig ar wahân, sydd yn cael eu sefydlu drwy Gynghorau - hynny yw, yn gorfforaeth ar eu traed eu hunain, ac yn bodoli lled ar-wahân i Gynghorau.

 

O ran y maes trafnidiaeth, cadarnhawyd yr aelodaeth fandadol fel chwe Arweinydd Cynghorau Gogledd Cymru (gyda hawl i gyfethol).  Nodwyd y byddai yr opsiwn ar gael yma i sefydlu Is-bwyllgorau.

 

O ran materion cyllid ac ariannu, cadarnhawyd mai y cynghorau, drwy gytundeb, sydd yn ei ariannu, ynghyd a threfnu materion craffu ac awdit, eto drwy gytundeb.

 

Codwyd y cwestiynau canlynol o’r drafodaeth :

 

·         Beth fydd y berthynas ffurfiol gyda yr Awdurdodau?

·         O ran materion megis craffu, cod ymddygiad ac ati, o dan ba drefniant fydd y materion hyn yn disgyn?

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac derbyniwyd sylwadau fel a ganlyn :

 

·         Bydd CBC yn mynd a phwerau oddi ar y Cynghorau.  Nodwyd bod swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cysylltu gyda rhai Aelodau o’r Is-Fwrdd, gan nodi mai cerbyd ydyw hwn i Lywodraeth Leol siapio y gwaith ac adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud

Atgyfnerthwyd y pwynt mai cryfhau y sefyllfa, a chynnwys Aelodau yw’r bwriad, gan roi cyfle iddynt rannu eu barn yn llawn, ac yn onest ar y rheoliadau drafft hyn.

 

·         Sut mae Trafnidiaeth Cymru a’r Asiantaeth Cefnffyrdd yn ffitio i mewn?

Bydd apwyntio swyddogion yn bryder, yn enwedig o ddarllen y bydd y rolau yn cymryd 1-5 diwrnod o amser swyddog.

Onid oes camsyniad yma y bydd yn arbed arian?  Erbyn hyn nid oes gan gynghorau swyddogion sydd yn dyblygu gwaith.

Sut byddent yn cael eu hariannu?

Mae rhoi y pŵer i’r Awdurdodau Lleol i redeg eu trafnidiaeth bws eu hunain yn anodd iawn heb arbenigedd lleol.

Nodwyd pryder hefyd am faterion llywodraethu.

Ymatebodd Swyddog Llywodraeth Cymru gan gadarnhau mai yr unig swyddogaeth sydd yn cael ei drosglwyddo i’r CBC yw y Cynllun Trafnidiaeth Lleol a bod y gweithgareddau o gwmpas bysiau yn aros gyda yr Awdurdodau Lleol, ac mai dewisol fyddai symud swyddogaethau eraill drosodd.

O ran Trafnidiaeth Cymru, cadarnhawyd mai corff danfon ydyw, ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6