AELOD CABINET: Cynghorydd Dyfrig Siencyn
I ystyried yr
adroddiad
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu
trefniadau llywodraethu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC). Ymhelaethwyd ar gynnwys yr
adroddiad a rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn y meysydd blaenoriaeth ynghyd a gwaith yr is-grwpiau
sydd yn gyfrifol
am y meysydd hynny. Ers mis Mawrth
2020, yn wyneb pandemig covid-19, eglurwyd bod cyrff cyhoeddus wedi gorfod addasu
i ymateb i’r argyfwng iechyd
drwy newid eu ffordd o weithio
a chysylltu gydag eraill. Cyfeiriwyd at weithdy a gynhaliwyd ym mis Medi
2020 i drafod rôl y Bwrdd yn
eu gwaith o adfer cymunedau o’r pandemig.
O ganlyniad i ganfyddiadau’r gweithdy addaswyd ffrydiau gwaith yr is-grwpiau presennol
ynghyd a’u rhaglenni gwaith a chytuno ar gerrig
milltir. Cytunwyd hefyd i wneud
gwaith ymchwil pellach mewn rhai
meysydd (tlodi ariannol a diweithdra ymhlith pobl ifanc)
er mwyn canfod
y sefyllfa ddiweddaraf. Bydd canfyddiadau’r gwaith ymchwil hynny yn cael
eu cyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus ar 16eg Rhagfyr 2020.
Canfyddiad arall y gweithdy oedd bod nifer o’r partneriaid yn ymateb i
anghenion llesiant ein cymunedau fel
sefydliadau unigol. Eglurwyd bod y BGC yn gadarn eu bod am osgoi dyblygu gwaith,
a'u bod yn ymchwilio i sut
y gallent weithredu heb ddyblygu’r gwaith a wneir gan bartneriaid unigol er mwyn
ychwanegu gwerth at gynlluniau presennol. Un modd o osgoi
dyblygu gwaith yw bod y Bwrdd o bryd i’w gilydd
yn gwahodd partneriaid eraill i roi cyflwyniadau
am eu gwaith fel y Bartneriaeth Sgiliau a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-
·
Os am graffu gwaith y Bwrdd, bod angen gwybodaeth am fesuriadau, targedau, data, llwyddiannau
·
Pam nad yw’r Heddlu yn rhan
o’r Bwrdd?
·
Bod diffyg
tai ar gael i brynu yn
lleol
·
Cefn gwlad yn dioddef gyda
gwasanaethau yn symud neu cau
mewn cymunedau
·
Ethos Cymdeithasau Tai oedd prynu tai yn lleol yn
hytrach nag adeiladau i bobl leol
- angen canolbwyntio ar yr elfen
o ail adeiladu i warchod yr iaith
a sicrhau bod unrhyw arian sydd yn
cael ei dderbyn e.e., Premiwm Treth Cyngor ar gyfer ail gartrefi
yn cael ei
fuddsoddi yn yr ardaloedd hynny
sydd yn dioddef
o’r effaith
Mewn ymateb i sylw
nad oedd
Llywodraeth Cymru wedi rhagweld yr
angen i gyfrannu
at gostau cynnal a chadw'r arfordir mewn ymateb i
gynnydd mewn defnydd / ymwelwyr o ganlyniad i’r pandemig,
awgrymwyd bod angen addasu meddylfryd y Llywodraeth i ddeall
bod rhai materion arfordirol tu hwnt
i strategaethau Awdurdodau Lleol. Amlygwyd bod Gwynedd eisoes wedi gorfod ymdrin
gyda chostau ychwanegol o gynnal a chadw'r isadeiledd o gwmpas y cynnydd mewn defnydd.
Ategwyd bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn nodi bod rhaid i gyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar sut mae eu penderfyniadau yn mynd i gael effaith hirdymor, gan gydweithio i atal problemau rhag digwydd a chydnabod na all unrhyw gorff cyhoeddus unigol ymateb i’r heriau mawr. Cytunwyd yr angen i drafod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5