4 CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 272 KB
Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch, LL53 7DY
I ystyried y cais
Penderfyniad:
Caniatáu
y cais
Cofnod:
Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch
Ar ran yr eiddo: Gavin
Hancock (Ymgeisydd)
Eraill a wahoddwyd: Moira
Duell-Parry - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd
Cyng
Dewi Roberts (Aelod Lleol)
Patricia
Meyrick, Einir Wyn, Mary Marsden, Terry Evans, Paul Evans, Donna Jones a Cherry
Steele (Ymgynghorai Lleol)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i
hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywio trwydded eiddo ar
gyfer Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch. Gwnaed y cais mewn perthynas ag ymestyn oriau agor, gwerthu alcohol ar yr eiddo a darparu
cerddoriaeth wedi recordio ar yr eiddo.
Tynnwyd sylw at
fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad.
Amlygwyd, bod yr ymgeisydd, yn dilyn derbyn sylwadau ac amodau gan Adran
Gwarchod y Cyhoedd a sawl gwrthwynebiad i’r cais, wedi cyfaddawdu i beidio â
defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yp a bod rhaid i’r drysau a’r ffenestri fod
wedi cau wrth chwarae cerddoriaeth ar lefel sŵn cefndirol yn unig. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion
Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw
at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan nodi nad oedd gan yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiadau.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei
fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.
Ategodd y sylwadau canlynol:
·
Ei fod
wedi cytuno i gyfaddawd yn dilyn trafodaethau
·
Ei fod
wedi cytuno i beidio defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yh
·
Ei fod yn ymwybodol y bydd yr amodau yn cael eu
cynnwys ar y drwydded petai yn cael ei chaniatáu
·
Ei fod
angen yr addasiadau er mwyn cystadlu gyda busnesau tebyg ar Stryd Fawr Abersoch
Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr is-bwyllgor, nododd bod y wal derfyn rhyw 10 - 15m o’r eiddo
cyfagos ac nad oedd wedi derbyn cwynion am sbwriel a
sŵn yn y gorffennol.
ch) Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i
ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a
gyflwynwyd trwy lythyr.
Swyddog Iechyd yr Amgylchedd,
· Bod yr ymgeisydd, yn dilyn trafodaethau, wedi cytuno i beidio â defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yp a bod rhaid i’r drysau a’r ffenestri fod wedi cau wrth chwarae cerddoriaeth ar lefel sŵn cefndirol yn unig. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4