6 Cais Rhif C20/0811/14/LL - Llanw, 6 Lôn Sydney, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1ET PDF 289 KB
Cais i ymestyn balconi presennol ar flaen yr
eiddo
AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatáu y cais
Amodau:
1.
Unol a’r cynlluniau
Nodyn Dwr Cymru
Cofnod:
Cais i ymestyn balconi
presennol ar flaen yr eiddo
a) Eglurodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai
cais ydoedd i ymestyn y balconi
presennol oddeutu 2m o gwmpas edrychiad blaen ac ochr yr
eiddo o gwmpas yr ystafell fwyta
a’r lolfa bresennol. Nodwyd y byddai’r balconi o wneuthuriad ffrâm ddur gyda phaneli
gwydr a llawr o fordiau pren. Ategwyd
bod yr eiddo yn dŷ
unllawr ac wedi ei leoli ar
lethr ar gyffordd o fewn ardal breswyl o fewn Tref Caernarfon. Mae ffordd gyhoeddus yn amgylchynu
3 ochr yr eiddo.
Amlygwyd bod y cais yn cael
ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio
oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn
i Aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio.
Ystyriwyd fod y bwriad yn
gweddu i’r safle ac i’r annedd
o ran maint a dyluniad ac
felly yn cydymffurfio a gofynion polisïau PCYFF 2, 3 a
PS5. Ni
ystyriwyd y byddai’n cael effaith sylweddol
fwy ar unrhyw
eiddo cyfagos na chael
effaith andwyol sylweddol fwy ar
fwynderau’r ardal. Y bwriad felly yn cydymffurfio a gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Mai
cais ydoedd i ymestyn balconi ac mai’r prif ystyriaethau fyddai i eraill
golli preifatrwydd o ganlyniad i or-edrych – mynegwyd na fyddai gor-edrych
ar eiddo cyfagos o’r eiddo
yma
·
Bod
golygfa dros y Fenai o’r eiddo ac felly priodol fyddai manteisio ar hynny
·
Yn
gefnogol i’r argymhelliad
·
Bod
angen eglurder ar y nodyn Dwr Cymru
c) Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â nodyn Dwr Cymru, nodwyd
mai ‘nodyn’ oedd yma ac nid
‘amod’ ac mai nodyn cyffredinol ydoedd i godi
ymwybyddiaeth yr ymgeisydd
ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
PENDERFYNWYD
Caniatáu y cais
Amodau:
1. Unol a’r cynlluniau
Nodyn Dwr Cymru