7 Cais Rhif C20/0018/13/LL - Tir ger Llain Y Pebyll, Bethesda, LL57 3NQ PDF 457 KB
Codi 7 annedd breswyl ar
gyfer yr henoed ynghyd a llecynnau parcio a man troi
AELOD LLEOL: Cynghorydd Rheinallt Puw
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol
Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i'r amodau isod:-
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r cynlluniau.
3.
Llechi naturiol i’r toeau.
4.
Cytuno gydag
edrychiadau allanol y tai gan gynnwys
y paneli solar.
5.
Tynnu hawliau datblygiadau
a ganiateir o’r anheddau preswyl.
6.
Amodau Priffyrdd yn ymwneud a darparu llecynnau parcio, ffordd y stad a
llwybrau troed cysylltiedig.
7.
Cyflwyno rhaglen o waith
archeolegol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn i unrhyw
waith ddechrau ar y safle.
8.
Rhaid cyflwyno adroddiad
manwl ar y gwaith archeolegol, yn unol ag
amod 7 i'w gytuno yn ysgrifenedig
gan yr Awdurdod
Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r
gwaith archeolegol.
9.
Amodau’r Uned Bioamrywiaeth
yn ymwneud a dim llystyfiant, coed na llwyni
i’w clirio yn ystod y tymor
nythu (1 Mawrth i 31 Awst); cyn
i unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno cynllun i’w gymeradwyo
gan yr ACLL i sicrhau na
fydd ymlusgiaid yn cael eu
niweidio yn ystod y gwaith adeiladu a bydd rhaid i’r cynllun
hwn gael ei weithredu i
lwyr foddhad yr ACLL; cyn i
unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno Cynllun gwelliannau a Lliniaru Bioamrywiaeth i’w gytuno gyda’r ACLL a cyn i unrhyw
waith ddechrau ar y safle rhaid
cyflwyno Cynllun Difa Planhigion Ymledol Di-Cynhenid i’w gytuno gyda’r
ACLL.
10.
Amod cydymffurfio gyda
mesurau lliniaru o fewn y ddogfen Adroddiad Gwerthuso Ecolegol Rhagarweiniol.
11.
Amod cydymffurfio ac argymhellion
a mesurau lliniaru sydd wedi eu
cynnwys yn yr Adroddiad Coed.
12.
Amod Uned Gwarchod
y Cyhoedd parthed ymgymryd ag archwiliad
halogiad safle.
13.
Amodau Llywodraeth Cymru
parthed lleiniau gwelededd, draenio ac ail-wynebu’r pafin ger y safle.
14.
Sicrhau/cytuno
gyda chynllun tai fforddiadwy
15.
bod yr
unedau yn fforddiadwy ar gyfer trigolion 55+ mewn oed
Nodiadau
Cofnod:
Codi 7 annedd breswyl ar
gyfer yr henoed ynghyd a llecynnau parcio a man troi
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais
llawn ydoedd gyda sawl elfen i’r cais:-
·
Darparu 5 byngalo 2 lofft ynghyd a 2 fflat 1
llofft rhent cymdeithasol fforddiadwy ar gyfer yr henoed.
·
Darparu llecynnau parcio a mynediad newydd oddi ar y gefnffordd i
wasanaethu'r byngalos ar lain rhif 3 a 4.
·
Bydd gweddill yr anheddau yn cael eu gwasanaethu oddi ar y fynedfa a'r
rhodfa bresennol sy'n gwasanaethu Stad Llain y Pebyll.
·
Darparu llecynnau/gerddi amwynder preifat o fewn y safle.
·
Darparu isadeiledd gan gynnwys storfeydd biniau/ailgylchu ar gyfer pob
annedd.
Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan
ond yn gyfochrog gyda ffin datblygu Bethesda fel y'i cynhwysir yn y Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017(CDLL). Er bod datblygiadau ar
gyfer unedau fforddiadwy ac unedau marchnad agored wedi eu caniatáu’n
ddiweddar ym Methesda nid yw'r angen lleol am dai newydd yn benodol i'r henoed
wedi ei gwrdd.
Eglurwyd bod y cais wedi bod yn destun trafodaethau rhwng Tai Gogledd
Cymru ( y datblygwr) ac Uned Strategol Tai’r Cyngor. O
ganlyniad penderfynwyd ei gynnwys ar y rhestr cynlluniau wrth gefn yn y Cynllun
Rhaglen Trosglwyddo i dderbyn arian grant yn
ddarostyngedig ar dderbyn caniatâd cynllunio a phenodi contractwr. O ystyried fod y
bwriad yn ymateb i angen cydnabyddedig ac yn darparu cymysgedd briodol o
unedau, ystyriwyd fod y bwriad yn gyfle i ddatblygu cynllun o ansawdd gan
ddiwallu anghenion cydnabyddedig ac felly, yn unol â gofynion Polisi.
Ar sail asesiad mwynderau gweledol ystyriwyd bod y bwriad i ddatblygu
stad fechan o dai newydd yn dderbyniol ac y byddai
gosodiad, graddfa, dyluniad a deunyddiau'r tai yn dderbyniol o ystyried yr hyn
sydd o'i amgylch. Ni ystyriwyd unrhyw bryderon yng nghyd -destun mwynderau
cyffredinol a phreswyl, bioamrywiaeth na materion
archeolegol.
Ategwyd bod y bwriad yn cynnwys ymestyn y ffordd stad fabwysiedig
bresennol i mewn i Stad Llain y Pebyll er mwyn gwasanaethu'r byngalos
arfaethedig ar leiniau rhif 5, 6 a 7 yn unig gyda mannau parcio cysylltiedig.
Nodwyd y byddai’r byngalo a'r tŷ deulawr ar leiniau 1, 2, 3 a 4 yn cael eu gwasanaethu yn uniongyrchol oddi ar y
gefnffordd gyfagos. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth na’r Uned Cefnffyrdd
unrhyw wrthwynebiad i'r cais ar sail creu mynediad o ffordd stad bresennol
Llain y Pebyll nag o’r gefnffordd gyfagos.
Yn dilyn derbyn sylwadau cychwynnol yr Uned Iaith cyflwynwyd Datganiad
Iaith Gymraeg gyda’r cais ac yn seiliedig ar gynnwys y Datganiad roedd yr Uned
yn cytuno gyda chynnwys y ddogfen sy’n cadarnhau mai effaith gadarnhaol caiff y
datblygiad ar yr Iaith Gymraeg ym Methesda.
Ar sail yr asesiad a gwblhawyd ni ystyriwyd fod
y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater
cynllunio perthnasol yn gorbwyso'r ystyriaethau polisi. I'r perwyl hwn
ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau
priodol.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais