8 Cais Rhif C20/0804/25/LL - 8, Llys Castan Ffordd Y Parc, Parc Menai, Bangor, Gwynedd PDF 468 KB
Newid defnydd uned
wag o swyddfa Dosbarth Defnydd B1 i ddeintyddfa
Dosbarth Defnydd D1 (ail-gyflwyniad o'r cais a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0351/25/LL)
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Menna Baines
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatáu yn groes
i’r argymhelliad
Amodau:
1.
dechrau’r datblygiad o fewn
5 mlynedd
2.
cario’r datblygiad allan
yn unol gyda’r
cynlluniau a gyflwynwyd
3.
amod i sicrhau fod defnydd
yr adeilad yn mynd yn
ol i’w ddefnydd
gwreiddiol os daw defnydd y ddeintyddfa i ben yn y dyfodol.
COFNODION:
Newid defnydd uned wag o
swyddfa Dosbarth Defnydd B1 i ddeintyddfa Dosbarth Defnydd D1 (ail-gyflwyniad
o'r cais a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0351/25/LL)
a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai ail-gyflwyniad ydoedd o gais
a wrthodwyd ym Mehefin, 2020 ar gyfer newid defnydd o swyddfa (Dosbarth Defnydd
B1) i ddeintyddfa (Dosbarth Defnydd D1) o fewn uned wag yn Llys Castan, Parc
Menai.
Wrth
ystyried egwyddor y defnydd arfaethedig amlygwyd y dylid sicrhau fod y bwriad
yn cydymffurfio a’r holl feini prawf a gynhwysir ym Mholisi ISA 2 (cyfleusterau
cymunedol) o’r CDLL. I bwrpas y polisi, cadarnhawyd fod cyfleusterau cymunedol
yn cynnwys ‘cyfleusterau a ddefnyddir gan gymunedau lleol at ddibenion iechyd…
ac unrhyw gyfleuster arall sy’n cyflawni’r rôl o wasanaethu’r gymuned’.
Adroddwyd
bod Polisi PS13 a Pholisi CYF1 o'r CDLL yn nodi y gwarchodir y safle a’r uned
ar gyfer defnydd cyflogaeth yn Nefnydd Dosbarth B1. Yn unol â
Pholisi CYF5 (defnyddiau amgen o Safleoedd Cyflogaeth bresennol) adroddwyd mai
mewn achosion arbennig yn unig y caniateir cynigion i ryddhau tir yn Nosbarth
Defnydd B1, B2 neu B8 ar safleoedd cyflogaeth bresennol sydd wedi eu gwarchod
yn unol â Pholisi CYF1 ar gyfer defnydd amgen a dim ond ble gellid cwrdd gydag
un neu fwy o feini prawf y polisi:
·
“Yn yr achos fod y safle yn wag ei fod yn annhebygol o
gael ei ddefnyddio yn y tymor byr a chanolig ar gyfer defnydd gwreiddiol neu
ddefnydd y warchodaeth, neu;
·
Mae yna orddarpariaeth o safleoedd cyflogaeth o fewn y
cyffiniau, neu;
·
Mae’r defnydd cyflogaeth bresennol yn cael effaith
niweidiol ar fwynderau a’r amgylchedd, neu;
·
Ni fyddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar
ddefnydd cyflogaeth safleoedd cyfagos, neu;
·
Nid oes yna safle amgen arall ar gyfer y defnydd
bwriedir, neu;
·
Os yw’r safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer defnydd
tymor byr (dros dro), bod yna fesurau adfer priodol mewn lle sydd i foddhad yr
Awdurdod Cynllunio Lleol.”
Amlygwyd
bod gwybodaeth fanwl a helaeth wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd i gefnogi’r
cais oedd yn cynnwys Datganiad
Cynllunio, yn ogystal â Datganiad Cynllunio gan yr asiant, Datganiad Prawf
Dilyniannol ynghyd a Dogfen Tystiolaeth Hygyrchedd y Safleoedd yn
amlygu’r sylwadau isod:
·
Mae cymuned Penrhosgarnedd yn agosach i safle’r cais
nag eiddo deintyddion eraill ym Mangor.
·
Mae cymuned Parc Menai yn agosach i safle’r cais nag
eiddo deintyddion eraill ym Mangor.
·
Mae staff/cymuned Ysbyty Gwynedd yn agosach i safle’r
cais nag eiddo deintyddion eraill ym Mangor.
·
Mae gwasanaeth bws rheolaidd gan gwmnïau amrywiol yn
gwasanaethu busnesau eraill ym Mharc Menai.
·
Mae rhwydwaith beics presennol ynghyd a llwybrau cyhoeddus yn gwasanaethu Parc Menai.
·
Mae’r safle yn hygyrch yn ddaearyddol i ddefnyddwyr
lleol a rhanbarthol sy’n defnyddio’r A55.
· Nodir bod y rhan helaeth o gleifion y cyfleuster presennol yn defnyddio car (gyda nifer ohonynt yn gleifion oedrannus a fyddai’n anghyfleus neu yn amhosibl defnyddio cludiant cyhoeddus). Ni fyddai’r sefyllfa yma yn newid gyda’r safle newydd hwn ym Mharc Menai. Os rhywbeth, fyddai’n agosach i nifer helaeth o gleifion sy’n defnyddio’r cyfleuster ... view the full COFNODION text for item 8