8 TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A / NEU GODI PREMIWM 2021/22 PDF 673 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Ar
gyfer 2021/22, bod Cyngor Gwynedd yn:
·
Caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth
A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
·
Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 100%
ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992.
Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas,
adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2021/22 i beidio caniatáu
disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar anheddau gwag, ac i godi Premiwm
o 100% ar eiddo perthnasol o’r fath.
Manylodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) ar ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnydd i gynyddu’r
Premiwm ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor
i hyd at 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, ynghyd â’r gofynion cyfreithiol. Tynnwyd sylw ganddo hefyd
at bwysigrwydd yr Asesiad Ardrawiad Cydraddoldeb, ac atgoffwyd yr aelodau fod
rhaid iddynt ei ystyried wrth
ddod i benderfyniad. Rhoddwyd esboniad ac arweiniad ar y canfyddiadau, gan dynnu sylw penodol
at honiad y gall y bwriad wahaniaethu yn anuniongyrchol ar grwpiau gyda nodweddion gwarchodedig, a’r angen i’r aelodau
gydbwyso hyn wrth ddod eu
penderfyniad.
Diolchwyd i aelodau o staff y Cyngor, o fwy nag un adran,
am sicrhau llwyddiant yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Nododd aelod, er y cytunai
â barn y Cabinet fod pwysau
cynyddol ar y stoc dai lleol
a bod gan berchnogion tai gwyliau'r modd i dalu ychydig
mwy, pryderai fod y bwriad i
gynyddu argaeledd tai fforddiadwy drwy gynyddu’r Premiwm yn golygu bod y Cabinet wedi camddeall y sefyllfa. Roedd risg y byddai
cynyddu’r Premiwm i 100% yn cymell
hyd yn oed
mwy o berchnogion ail gartrefi i drosglwyddo
i’r Dreth Fusnes, a olygai
golli’r tai hynny am byth, gan nad
oedd yna bwerau i’w cael
yn ôl i’r
Dreth Ddomestig. Ni chredai fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud
digon ynglŷn â’r sefyllfa, a chredai y dylai fod yn ofynnol
cael caniatâd cynllunio i drosi
tai i’r Dreth
Fusnes. Mynegodd ei bryder
y byddai’r Cyngor yn colli llawer iawn
o incwm yn y pen draw, ac roedd o’r farn
ei bod yn gynamserol i gynyddu’r
Premiwm i 100%, ac y byddai’n well aros i weld beth fyddai’r
sefyllfa yn dilyn Etholiad Senedd Cymru ym
mis Mai. Ar
sail hynny, cynigiodd welliant i ymlynu
at y drefn bresennol o godi Premiwm o 50% ar gyfer 2021/22, gan addasu ail a thrydedd pwynt bwled yr
argymhelliad yn yr adroddiad fel
a ganlyn:-
“Ar gyfer 2021/22, bod Cyngor Gwynedd
yn:
·
Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 50%
ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992.
·
Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod
yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 50% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn
unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.”
Eiliwyd y gwelliant.
Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, cefnogwyd y gwelliant gan aelodau
ar y sail:-
· Mai twristiaeth yw un o brif gyflogwyr y sir, a byddai cynnydd pellach yn y Premiwm yn arwain at golli swyddi yn y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8