11 CYLLIDEB 2021/22 PDF 224 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb o £275,669,610 ar gyfer
2021/22 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £194,793,140 a £80,876,470 o incwm
o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.7%.
(b) Sefydlu rhaglen gyfalaf o £47,085,960 yn
2021/22 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.
2. Nodi fod yr Aelod
Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 18 Tachwedd 2020, wedi
cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn unol â’r
rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y
Ddeddf”):-
(a) 51,885.56 yw’r swm a
gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau
Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei
sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.
(b) Rhan o ardal y Cyngor –
Sylfaen drethiannol Cymuned –
Aberdaron |
542.74
|
|
Llanddeiniolen |
1,832.32 |
Aberdyfi |
980.22 |
Llandderfel |
496.58 |
|
Abergwyngregyn |
117.00 |
Llanegryn |
157.54 |
|
Abermaw
(Barmouth) |
1,148.25 |
Llanelltyd |
288.90 |
|
Arthog |
617.37 |
Llanengan |
2,105.34 |
|
Y Bala |
771.50 |
Llanfair |
311.58 |
|
Bangor |
3,844.96 |
Llanfihangel y
Pennant |
223.75 |
|
Beddgelert |
296.64 |
Llanfrothen |
224.08 |
|
Betws Garmon |
130.44 |
Llangelynnin |
407.39 |
|
Bethesda |
1,696.45 |
Llangywer |
137.01 |
|
Bontnewydd |
433.07 |
Llanllechid |
336.00 |
|
Botwnnog |
448.54 |
Llanllyfni |
1,407.84 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
426.50 |
Llannor |
905.46 |
|
Bryncrug |
325.38 |
Llanrug |
1,127.82 |
|
Buan |
224.84 |
Llanuwchllyn |
304.53 |
|
Caernarfon |
3,596.36 |
Llanwnda |
789.27 |
|
Clynnog Fawr |
446.26 |
Llanycil |
198.76 |
|
Corris |
296.99 |
Llanystumdwy |
864.34 |
|
Criccieth |
931.77 |
Maentwrog |
283.93 |
|
Dolbenmaen |
603.77 |
Mawddwy |
346.60 |
|
Dolgellau |
1,233.10 |
Nefyn |
1,458.93 |
|
Dyffryn Ardudwy |
831.65 |
Pennal |
215.54 |
|
Y Felinheli |
1,136.66 |
Penrhyndeudraeth |
779.36 |
|
Ffestiniog |
1,713.50 |
Pentir |
1,260.20 |
|
Y Ganllwyd |
86.79 |
Pistyll |
259.32 |
|
Harlech |
769.40 |
Porthmadog |
2,016.47 |
|
Llanaelhaearn |
449.24 |
Pwllheli |
1,729.10 |
|
Llanbedr |
336.30 |
Talsarnau |
325.03 |
|
Llanbedrog |
720.36 |
Trawsfynydd |
499.20 |
|
Llanberis |
768.82 |
Tudweiliog |
457.21 |
|
Llandwrog |
1,027.80 |
Tywyn |
1,624.58 |
|
Llandygai |
1,000.88 |
|
Waunfawr |
558.03 |
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth
Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle
bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
3. Bod y symiau a ganlyn
yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn unol ag
Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
|
|
|
|
|
(a)
|
£409,390,260 |
Sef cyfanswm y symiau
y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran
32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros). |
||
(b)
|
£131,672,530 |
Sef cyfanswm y symiau y
mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran
32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm). |
||
(c)
|
£277,717,730 |
Sef y swm sy’n cyfateb
i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd
gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar
gyfer y flwyddyn (cyllideb net). |
||
(ch) |
£194,297,483 |
Sef cyfanswm y symiau
y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa
ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai
amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a
ganiateir. |
||
(d)
|
£1,532.26 |
Sef y swm yn
3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei ... view the full Penderfyniad text for item 11
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:- ·
Adroddiad yn argymell
cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2021/22; ·
Penderfyniad drafft y
Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd
o 3.7%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul
cymuned. Gan i’r Cyngor benderfynu
codi Premiwm o 100% ar ail gartrefi a chartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis
neu fwy (dan eitem 8 uchod), gofynnodd y Pennaeth Cyllid i’r Cyngor
gymeradwyo’r fersiwn Premiwm 100% o’r argymhelliad, fel y nodwyd yn yr
adroddiad. Atgoffwyd yr aelodau
o rai o’r prif risgiau yn Atodiad 10 i’r adroddiad, a chadarnhaodd y Pennaeth
Cyllid, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau lliniaru, ei fod o’r farn bod
Cyllideb y Cyngor am 2021/22 yn gadarn, yn ddigonol, ac yn gyraeddadwy. Yn ystod y drafodaeth, cefnogwyd y cynnig gan aelodau ar y sail:- ·
Y byddai cynyddu’r Dreth Gyngor 3.7% yn
galluogi i’r Cyngor osgoi’r risg o fethu ymateb i ofynion y Ddeddf Anghenion
Dysgu Ychwanegol newydd ar y sail na chafwyd adnoddau gan Lywodraeth Cymru i
gwrdd â’r cynnydd mewn angen am ddarpariaeth statudol. ·
Pe na fyddai’r Cyngor
yn cynyddu’r Dreth Gyngor 3.7%, byddai’n rhaid torri ar y gwasanaethau i’r bobl
sydd fwyaf o angen cymorth. Roedd gwaith
aruthrol wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi busnesau yn sgil
Cofid a Brexit, ac ni ddymunid gweld torri ar y Gwasanaeth Cefnogi Busnes. ·
Er na ddymunid codi’r
dreth, byddai canlyniadau peidio gwneud hynny yn waeth, ac yn bendant ni
ddymunid gweld mwy o dorri ar wasanaethau. ·
Bod cymorth ar gael
gan y Cyngor i rai sy’n cael anhawster talu’r Dreth Gyngor. ·
Na fyddai’n ddarbodus
codi llai ar y dreth, yn y gobaith y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian
ychwanegol dros y misoedd nesaf. ·
Y byddai cynnydd is
na 3.7% yn y Dreth Gyngor yn golygu y byddai’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi
Teuluoedd mewn peryg’ o roi plant mewn risg. ·
Mai 3.7% yw’r cynnydd
lleiaf y gellir ei osod i gadw’r gwasanaethau i fynd, heb sôn am eu datblygu. Gwrthwynebwyd y cynnig gan aelodau eraill ar y sail:- ·
Mai’r bobl hynny sydd
ar gyflogau isel, ond fymryn uwchlaw’r lefel hawlio budd-daliadau sy’n dioddef
fwyaf, a bod angen cynllun i helpu’r bobl hynny. ·
Y byddai’n anodd iawn
cynyddu’r Dreth Gyngor eleni, o ystyried bod busnesau wedi methu bod yn agored,
pobl wedi colli eu gwaith a gweithwyr ar ffyrlo wedi colli 20% o’u hincwm. ·
Os yw cynghorau am
gael mwy o arian gan y Llywodraeth dros y misoedd i ddod, dylid ystyried
cynnydd llai yn y Dreth. ·
Bod y cynnydd o 3.7%
yn frawychus o uchel, a rhwng y pandemig a’r llifogydd a phopeth, y disgwylid y
byddai wedi bod yn agosach at 2.7% eleni.
·
Y gallai’r Cyngor fod
wedi arbed degau o filoedd petai wedi atal staff rhag mynd â cherbydau’r Cyngor
adref, a bod angen edrych ble mae’r gwastraff a’i stopio. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau unigol, eglurwyd:- ·
Ei bod yn gynamserol
i ddweud ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11 |