Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cyflwyno’r sylwadau a ganlyn mewn ymateb i’r
ymgynghoriad, a dirprwyo hawl i’r Swyddog
Monitro goladu a chyfleu yr ymateb ar ran y Cyngor:-
·
Bod y pwyllgor yn croesawu’r
ddogfen yn gyffredinol, ac o’r farn ei bod yn ddarllenadwy ac yn hynod
ddefnyddiol o ran esbonio’r cod. Credir
hefyd bod y defnydd o esiamplau achos a swigod siarad yn ffordd
dda o amlygu rhannau o’r ddogfen a’i gwneud yn berthnasol i bobl.
·
Byddai’n fuddiol petai’r enghreifftiau o
dorri’r Cod Ymddygiad a restrir yn y ddogfen hefyd yn nodi beth oedd canlyniad
hynny, er mwyn rhoi darlun mwy eglur.
·
Byddai’r fuddiol petai’r ddogfen yn cynnwys
esiamplau o sut mae’r prawf budd cyhoeddus wedi weithio’n ymarferol, h.y. pa
fathau o gwynion sydd wedi croesi’r rhiniog, a pha fathau o gwynion sydd wedi
methu.
·
Y dylai’r ddogfen fod yn niwtral o ran rhyw.
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i gyflwyno sylwadau ac
adborth ar ymgynghoriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar ganllawiau
drafft newydd ar y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Tref
a Chymuned.
Eglurwyd nad oedd
cwestiynau penodedig wedi’u gosod yn yr ymgynghoriad, ond gan ddal sylw at
bwrpas y ddogfen, awgrymwyd y materion canlynol ar gyfer ystyriaeth y
pwyllgor:-
·
Ydi’r
arweiniad a roddir yn ddealladwy ac o ddefnydd?
·
Oes agweddau sydd ddim gystal ag y gellir eu gwella a sut?
·
Oes angen
ychwanegu rhywbeth? Beth?
Nodwyd ymhellach
bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi cael cyfle i ystyried yr
ymgynghoriad yn eu cyfarfod ar 18 Chwefror, ac er yn gyffredinol gefnogol i’r
canllawiau o ran eu cynnwys a’u tôn, bod rhai cwestiynau wedi codi o gwmpas yr
her o ran mynegiant gwleidyddol, a lle mae’r llinell rhwng yr hyn sy’n briodol
ac yn amhriodol, ayb, yn enwedig o safbwynt parch a’r defnydd o gyfryngau
cymdeithasol, ac ati.
Yna tynnwyd sylw’r
pwyllgor at rannau penodol o’r canllawiau, sef:-
·
Y prawf
dau gam a ddefnyddir gan yr Ombwdsmon wrth benderfynu a ddylid ymchwilio i gŵyn,
neu a ddylid parhau ag ymchwiliad i dorri’r Cod.
·
Hawl
mynegiant gwleidyddol, lle gall y Cod ymyrryd, a lle mae’n croesi’r
llinell.
·
Perthnasedd
y Cod i unigolion a’r disgwyliad bod pobl sydd mewn swyddi cyhoeddus yn cynnal
safonau uchel o ymddygiad.
·
Y gofyn i
aelodau sy’n cynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol gydymffurfio â Chod y corff
hwnnw, ac y gall torri Cod y corff hefyd olygu bod yr aelod yn torri Cod y
Cyngor.
·
Rol arweinyddiaeth gymunedol aelodau, a sut y gall gyrru negeseuon
e-bost amhriodol neu ddefnydd diofal neu anghyfrifol o gyfryngau cymdeithasol
ddwyn anfri ar swydd yr aelod.
·
Cymhlethdod
rôl a statws y clerc o fewn unrhyw gyngor cymuned.
·
Rôl y
Swyddog Monitro yng nghyd-destun cynghorau cymuned.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
Nodwyd, er bod y
canllawiau’n cynnwys enghreifftiau o dorri’r Cod, nad oedd cyfeiriad at y gosb
a roddwyd yn yr achosion hynny.
Awgrymwyd bod y
defnydd o esiamplau achos a swigod siarad yn ffordd dda o amlygu rhannau o’r
ddogfen a’u gwneud yn berthnasol i bobl.
Nodwyd bod y pwynt ynglŷn â diffyg ymchwilio i gwynion gan yr Ombwdsmon yn codi’n flynyddol yng nghyfarfod y Cyngor llawn, ond roedd yn amlwg bod llai na 5% o waith yr Ombwdsmon yn ymwneud â chynghorau, gyda’r mwyafrif o gwynion yn codi yn y maes iechyd. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod yr Ombwdsmon yn nodi yn ei ragair i’r canllawiau bod nifer y cwynion lefel isel oedd yn dod i law yn dal yn rhy uchel, ac er ei bod yn ymddangos mai nifer fach o aelodau oedd yn cyflwyno’r cwynion hyn, yn y cyfnod heriol hwn, roedd yn bwysicach nag erioed bod adnoddau ei swyddfa’n cael eu defnyddio’n effeithiol, a bod unrhyw ymchwiliad a gynhelid yn gymesur ac yn ofynnol er budd ehangach y cyhoedd. Nodwyd hefyd bod yr Ombwdsmon yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6