4 CAIS AM ADOLYGIAD TRWYDDED EIDDO PDF 246 KB
THE WAVERLEY HOTEL, 10, HEOL YR ORSAF, BANGOR
I ystyried y cais
Penderfyniad:
Caniatáu i Heddlu Gogledd Cymru adolygu’r drwydded a diwygio Atodiad 3 o’r drwydded honno
Cofnod:
Ar
ran Heddlu Gogledd Cymru:
Arolygydd 2600 Chris Hargrave
PCSO Lis Williams
Ar
ran yr eiddo:
Ms Hayley Meek
Deilydd trwydded Waverley
Hotel, Bangor
Michael Strain Cyfreithiwr
Eraill
a wahoddwyd:
Moira Duell Parry - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd
Robert Taylor – Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i
hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais gan yr Arolygydd Chris Hargrave
ar ran Heddlu Gogledd Cymru am adolygiad trwydded eiddo ar gyfer Y Waverley
Hotel, Bangor. Gwnaed y cais oherwydd
· methiant
cydymffurfio gydag amodau’r drwydded eiddo mewn perthynas ag amodau TCC
·
methiant gofyn am brawf oedran i unigolion sy’n
ymddangos i fod o dan 18
· methiant deilydd y
drwydded i gadw rheolaeth yng nghyd-destun yr argyfwng Covid -19.
Amlygwyd bod yr
Heddlu yn nodi pryderon gan y Cyhoedd am yr eiddo a’r diffygion rheolaeth.
Ategwyd bod deiseb ar lein yn gofyn am i’r eiddo gael
ei gau i lawr gyda ‘channoedd’ wedi arwyddo’r ddeiseb.
Adroddwyd bod yr
Heddlu wedi ystyried cynnig i ddeilydd y drwydded gyflwyno cais am Fân Amrywiad
o’r drwydded eiddo. Oherwydd yr amgylchiadau, a methiannau niferus deilydd y
drwydded i reoli’r sefyllfa, roedd yr Heddlu yn awyddus i gyflwyno’r cais i’r
Is- Bwyllgor er mwyn sicrhau adolygiad llawn gan argymell addasiadau i’r
drwydded.
Tynnwyd sylw at y
materion roedd yr Heddlu wedi eu hargymell i ddeilydd y drwydded. Adroddwyd bod
gohebiaeth wedi bod rhwng deilydd y drwydded, swyddog trwyddedu’r Heddlu, a’r
Cyngor oherwydd methiant i weithredu’r argymhellion - cafodd argymhelliad i
sicrhau fod goruchwylwyr drysau ar yr eiddo bob nos Wener a Nos Sadwrn ei
anwybyddu ar y cyfan. Dadleuwyd bod angen i hyn gael
ei gynnwys fel amod ar y drwydded er mwyn galluogi monitro cydymffurfiaeth.
Cyfeiriwyd at y
problemau a ganfuwyd yr Heddlu ynghyd a’r amodau trwyddedu a
argymhellwyd ganddynt ar gyfer eu cynnwys ar y drwydded eiddo
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod
Uned Gwarchod y
Cyhoedd, Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi cyflwyno
sylwadau a chefnogaeth i’r adolygiad
Roedd yr Uned
Gwarchod y Cyhoedd yn amlygu cefnogaeth i’r adolygiad ar sail yr amcan
trwyddedu o ddiogelu’r cyhoedd ac atal niwsans cyhoeddus. Roedd pryderon gan y
Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu am anwybyddu rheolau pellter cymdeithasol o dan
gyfyngiadau covid hefyd yn sail i gefnogi’r adolygiad. Roedd y Gwasanaeth Tân
wedi amlygu materion diogelwch tân oedd angen sylw deilydd y drwydded.
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Argymhellwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried a chaniatáu adolygiad o drwydded yr eiddo gan yr Heddlu
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
·
Gwahodd
yr Heddlu i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i'r Heddlu
· Gwahodd deilydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4