6 Cais Rhif C20/0898/42/DT Ty Pen Lôn Las, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BG PDF 313 KB
Estyniadau
a newidiadau i dŷ presennol.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth M Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatáu y cais
Amodau:
Nodyn
– Dŵr Cymru
Cofnod:
Estyniadau a newidiadau i dŷ presennol.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod sawl
elfen i’r cais ar gyfer
estyniadau ac addasiadau i dŷ deulawr
presennol oedd yn cynnwys :
·
Codi estyniad llawr cyntaf ar
flaen yr annedd
·
Newid
estyniad llawr gwaelod ar flaen
/ ochr yr eiddo i gael
to gyda “hip” yn hytrach na tho
gyda thalcen
·
Dymchwel
y simdde
·
Codi estyniad llawr cyntaf ar
gefn yr eiddo
·
Amnewid
dau estyniad unllawr cefn to brig presennol gydag estyniad to fflat - fe fyddai’r estyniad
newydd yn ymestyn 1.2m ymhellach i’r cefn na’r
estyniad presennol
Fe
drafodwyd y cais hwn yn y Pwyllgor
Cynllunio ar 21/12/2020. Gohiriwyd gwneud penderfyniad fel bod modd derbyn rhagor
o wybodaeth ynghylch effaith posib y balconi a oedd
yn rhan o’r
cynllun gwreiddiol. Eglurwyd bod y balconi erbyn hyn wedi
ei dynnu o’r cynlluniau a body bwriad
bellach yn cynnwys gosod to fflat tyfiant byw.
Ategwyd y byddai wal sgrinio yn
cael ei hadeiladu
i ymateb i bryderon goredrych.
Cynhaliwyd ail ymgynghoriad,
ond ni
dderbyniwyd sylwadau pellach.
Ystyriwyd bod y cais cynllunio yn cwrdd gyda
gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Mai’r balconi oedd y pryder mwyaf yn
y cynlluniau gwreiddiol – croesawu bod y balconi wedi ei ddiddymu
o’r cynlluniau diwygiedig
·
Gobaith na fydd y to fflat tyfiant byw yn cael
ei ddefnyddio fel teras – angen
pwysleisio bod amod 4 yn allweddol bwysig
c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan
aelodau:
·
Bod to gwyrdd /
to tyfiant byw yn gallu bod yn
broblemus
d) Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â chynnal a chadw'r to tyfiant byw, nodwyd
bod hyn yn ddibynnol ar yr
hadau a bod modd gosod amod i
gadarnhau’r defnydd
PENDERFYNWYD: caniatáu
y cais
Amodau:
1. 5 mlynedd
2. Unol a’r
cynlluniau diwygiedig
3. Manylion deunyddiau’r
waliau a’r toeau i’w cytuno
4. NI CHANIATEIR DEFNYDDIO
UNRHYW DO FFLAT A GRËIR FEL RHAN O’R DATBLYGIAD HWN FEL BALCONI NEU DERAS
Nodyn – Dŵr Cymru