CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT
I ystyried cais
Mr A
(copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Cofnod:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Amlygwyd nad oedd
yr ymgeisydd wedi datgan fod
ganddo gollfarnau blaenorol ar ei
gais ac awgrymwyd iddo ymhelaethu ar hyn. Roedd
yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell
i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod ganddo gywilydd
o’i ymddygiad pan yn ifanc. Wedi
cyfnod yn y carchar eglurodd ei fod yn
benderfynol o droi ei fywyd o gwmpas
a bu iddo fynd i’r coleg, dilyn
gyrfa lwyddiannus a sefydlu busnes.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
·
adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd
·
Canllawiau'r Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol
Yn Awst 1994 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys Ieuenctid Bangor ar un cyhuddiad o ymosod gan achosi gwir
niwed difrifol (ABH), yn groes i
a47 Deddf Troseddau Corfforol 1861. Derbyniodd ryddhad amodol 12 mis, gorchymyn i dalu iawndal
o £20.00 a gorchymyn ‘bind over’.
Ym Medi 1998 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys Ynadon Bangor ar ddau gyhuddiad. Un am ymosod gan achosi
gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i a47 o Ddeddf Troseddau Corfforol 1861, ac un o achosi gwir niwed corfforol
difrifol (GBH) yn groes i adran
20 o’r un Ddeddf. Derbyniodd 3 mis o garchar, ar gyfer
y drosedd GBH a dedfryd 3 mis o garchar dilynol
am y drosedd ABH
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad
oes rheidrwydd i berson sydd
â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag
cael trwydded, ond bydd disgwyl
iddo fod yn rhydd rhag
unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn
y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded.
Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i
brofi ei fod yn berson
addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd
wedi'i gael yn euog o drosedd(au)
neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried
yng nghyswllt hynny, ni chaiff
y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff
4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu
treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5