Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 02/03/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol (eitem 5)

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod collfarnau 2001 i gyd o ganlyniad i beidio derbyn cyngor proffesiynol i geisio arbed asedau busnes ei deulu. Rhoddodd eglurhad llawn o’r sefyllfa ynghyd a gwybodaeth am y troseddau traffig. Nododd ei fod yn gweithio gyda phobl gydag anableddau dysgu a’i fwriad oedd cynnig gwasanaeth cludiant iddynt gan geisio cymhwyster priodol i wneud hynny

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·         sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

·         Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Yn 1988 cafodd yr ymgeisydd ei wahardd rhag gyrru am 28 diwrnod yn dilyn digwyddiad o yrru 107mya ar draffordd yr M6.

 

Yn Mai 2001 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys y Goron yr Wyddgrug ar gyfres o 10 cyhuddiad. Un cyhuddiad o fod yn fethdalwr yn cymryd rhan mewn neu yn ymwneud â hyrwyddo neu reoli cwmni yn groes i a11 o’r Ddeddf Anghymwyso Cyfarwyddwyr Cwmni 1986. Dau gyhuddiad o fod yn rhan o neu barhau â busnes gyda’r bwriad o dwyllo credydwyr yn groes i a458 o’r un Ddeddf. Saith cyhuddiad o gael gafael ar eiddo drwy dwyll yn groes i a15 o’r Ddeddf Dwyn 1968. Derbyniodd 2 flynedd o garchar ar un o’r cyhuddiadau o gael gafael ar eiddo drwy dwyll ynghyd a dedfrydau o garchar yn cyd-redeg ar y cyhuddiadau eraill.Yn ogystal cafodd ei wahardd am 5 mlynedd rhag bod yn gyfarwyddwr ar gwmni.

 

Yn Medi 2015 derbyniodd SP30 am oryrru, (57mya mewn ardal 50mya ar hyd ffordd ddeuol yr A55) – derbyniodd 3 pwynt cosb ar ei drwydded yrru.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5