CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT
I ystyried cais
Mr B
(copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Cofnod:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod collfarnau 2001 i gyd o ganlyniad i beidio derbyn cyngor
proffesiynol i geisio arbed asedau busnes
ei deulu. Rhoddodd eglurhad llawn o’r sefyllfa
ynghyd a gwybodaeth am y troseddau traffig. Nododd ei fod yn
gweithio gyda phobl gydag anableddau
dysgu a’i fwriad oedd cynnig
gwasanaeth cludiant iddynt gan geisio cymhwyster priodol i wneud hynny
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
·
adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd
·
Canllawiau'r Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol
Yn 1988 cafodd
yr ymgeisydd ei wahardd rhag
gyrru am 28 diwrnod yn dilyn
digwyddiad o yrru 107mya ar draffordd yr
M6.
Yn Mai 2001 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys y Goron yr Wyddgrug ar
gyfres o 10 cyhuddiad. Un cyhuddiad o fod yn fethdalwr yn
cymryd rhan mewn neu yn
ymwneud â hyrwyddo neu reoli cwmni
yn groes i a11 o’r Ddeddf Anghymwyso
Cyfarwyddwyr Cwmni 1986. Dau gyhuddiad o fod yn rhan
o neu barhau â busnes gyda’r bwriad
o dwyllo credydwyr yn groes i a458 o’r un Ddeddf. Saith cyhuddiad o gael gafael ar
eiddo drwy dwyll yn groes
i a15 o’r Ddeddf Dwyn 1968. Derbyniodd 2 flynedd o garchar ar un o’r cyhuddiadau
o gael gafael ar eiddo drwy
dwyll ynghyd a dedfrydau o garchar yn cyd-redeg ar
y cyhuddiadau eraill.Yn
ogystal cafodd ei wahardd am
5 mlynedd rhag bod yn gyfarwyddwr
ar gwmni.
Yn Medi 2015 derbyniodd SP30 am oryrru, (57mya mewn ardal 50mya ar hyd ffordd
ddeuol yr A55) – derbyniodd 3 pwynt cosb ar ei
drwydded yrru.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5