5 CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2021/22 PDF 604 KB
Adroddiad gan
Dafydd L. Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2021/22 fel y'i
cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau
unwaith ac am byth o £415,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa
wrth gefn a glustnodir.
2. Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf 2021/22 hyd
2025/26 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.
3. Cyllido'r Adolygiadau Porth (Sicrwydd) ar
gyfer y prosiectau sydd dan arweiniad y Bwrdd Uchelgais ac Arianwyr y
Prosiectau.
4. Gofyn yn ffurfiol i bob un o'r chwe awdurdod
lleol gydweithredu wrth ddefnyddio eu hyblygrwydd ariannu i ryddhau cyllid
refeniw i'r Bwrdd Uchelgais. Golyga hyn gyfnewid y cyllid sydd wedi'i ddynodi
i'r Cynllun Twf yn erbyn prosiectau cyfalaf eraill o fewn eu rhaglenni cyfalaf
a sicrhau bod cyllid refeniw o werth cyfartal ar gael i'r Cynllun Twf i ariannu
eu heitemau math refeniw.
5. Gofyn i'r Swyddfa Rheoli Portffolio adolygu costau'r prosiectau yn ystod y flwyddyn wrth i ragor o wybodaeth ddod i law, ymhellach i'r costau nas ragwelwyd sydd bellach wedi'u hadnabod yn y gyllideb refeniw. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried yr opsiwn o ariannu rhan o'r gwariant hwn o gyllideb gyfalaf y prosiect unigol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dafydd L.Edwards (Swyddog Statudol Statudol – Awdurdod Lletya) a
Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Corfforaethol a Phrosiectau).
PENDERFYNWYD
(1) Cymeradwyo
Cyllideb Refeniw 2021/22 fel y’i cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau unwaith ac
am byth o £415,000 yn y gyllideb refeniw i’w hariannu o’r gronfa wrth gefn a
glustnodir.
(2) Cymeradwyo
Cyllideb Gyfalaf 2021/22 hyd 2025/26 fel y’i cyflwynir yn Atodiad 2.
(3) Cyllido’r
Adolygiadau Porth (Sicrwydd) ar gyfer y prosiectau sydd dan arweiniad y Bwrdd
Uchelgais ac Arianwyr y Prosiectau.
(4) Gofyn
yn ffurfiol i bob un o’r chwe awdurdod lleol gydweithredu wrth ddefnyddio eu
hyblygrwydd ariannu i ryddhau cyllid refeniw i’r Bwrdd Uchelgais. Golyga hyn gyfnewid y cyllid sydd wedi’i
ddynodi i’r Cynllun Twf yn erbyn prosiectau cyfalaf eraill o fewn eu rhaglenni
cyfalaf a sicrhau bod cyllid refeniw o werth cyfartal ar gael i’r Cynllun Twf i
ariannu eu heitemau math refeniw.
(5) Gofyn
i’r Swyddfa Rheoli Portffolio adolygu costau’r prosiectau yn ystod y flwyddyn
wrth i ragor o wybodaeth ddod i law, ymhellach i’r costau nas ragwelwyd sydd
bellach wedi’u hadnabod yn y gyllideb refeniw.
Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried yr opsiwn o ariannu rhan o’r gwariant
hwn o gyllideb gyfalaf y prosiect unigol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
(1) Gosod y gyllideb arfaethedig yn ôl pennawd
gwariant a’r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn.
(2) Gosod y gyllideb arfaethedig fesul prosiect
a’r ariannu cyfalaf cyfatebol ar gyfer 2021/22 hyd 2025/26.
(3) Er mwyn gweithredu’n effeithiol o fewn y
cyllid sydd ar gael, mae angen i gyllideb flynyddol gael ei chymeradwyo ar
gyfer y Bwrdd Uchelgais.
(4) Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio i wario
arian yn unol â’r gyllideb gymeradwy.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2021/22 ar gyfer y Bwrdd
Uchelgais.
Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
Manylodd Swyddog
Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya ar y newidiadau a’r sefyllfaoedd annisgwyl
oedd wedi codi ers i’r Bwrdd drafod y gyllideb ddiwethaf, ac oedd wedi gyrru cyfran
helaeth o’r defnydd o gronfeydd wrth gefn, sef:-
·
Y costau sylweddol annisgwyl untro ynghlwm â
datblygu achosion busnes.
·
Costau’r gefnogaeth gyfreithiol i’r achosion
busnes hynny.
Eglurodd:-
·
Bod arian digonol yn y cronfeydd wrth gefn i
weithredu hyn, ond y ceisid adeiladu’r gronfa wrth gefn, yn hytrach na’i
defnyddio ar y dechrau.
·
Bod y Cyfarwyddwr Portffolio, y Rheolwr
Gweithrediadau a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya wedi’u herio ar y ffigyrau,
a bod yr amcangyfrifon o’r costau untro ychwanegol yn rhai bras ar hyn o bryd.
Nododd ymhellach:-
·
Gan i’r rhandaliad cyntaf o £16m o’r grant
Cynllun Twf gael ei dderbyn ar 12 Mawrth, 2021, bod cyfraniadau’r partneriaid
ar ochr isaf yr amrediad a gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Hydref 2020.
· Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU yng Nghyllideb y Canghellor yng nghyswllt cwtogi’r cyfraniad ariannu o 15 mlynedd i 10 mlynedd, byddai’n rhaid ymweld â’r holl sefyllfa ariannol. Daeth newyddion y Canghellor yn annisgwyl i Lywodraeth Cymru hefyd, ac nid oedd yn glir ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5