I ystyried cadarnhau y Gorchymyn Diogelu Coed.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cadarnhau’r gorchymyn heb newidiadau.
Cofnod:
Grŵp o goed
a) Ymhelaethodd yr
Arweinydd Tîm Gorfodaeth ar gefndir
y cais gan nodi bod Gorchymyn Diogelu Coed Dros
Dro wedi ei osod ar
ddau grŵp o goed, oedd wedi
eu lleoli i’r gogledd o Tyddyn
Meilir, ar yr 8fed o Ragfyr 2020. Eglurwyd
bod asesiad o’r ddau
grŵp wedi ei gwblhau gan
ddefnyddio system TEMPO - byddai
unrhyw goeden/coed sy’n sgorio
16 pwynt neu fwy yn teilyngu
cael eu diogelu.
Adroddwyd bod Grŵp 1 (yn cynnwys 25 o goed Ffawydd) wedi
sgorio 18 pwynt, a Grŵp 2 (yn cynnwys 32 o goed ffawydd, 2 sycamorwydden, ac 1 dderwen gyda’r ffawydd wedi polardio
fewn i glawdd)
wedi sgorio 16 pwynt. Ystyriwyd bod y coed o werth mwynderol
uchel.
Nodwyd bod gwrthwynebiad i’r gorchymyn dros dro wedi ei
dderbyn gan yr Aelod Lleol
a pherchennog y tir ynghyd a llythyr gan Undeb Amaethwyr
Cymru (dyddiedig 3 Mawrth 2021) yn cefnogi gwrthwynebiad y perchennog tir. Wedi derbyn y gwrthwynebiadau i’r gorchymyn, ymgynghorwyd ymhellach gyda’r Gwasanaeth Bioamrywiaeth a chyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd yn 4.4 o’r adroddiad. Ystyriwyd mai gwrych
oedd yn bodoli
ar y safle yn y blynyddoedd a fu, ond oherwydd
diffyg rheolaeth debygol, bellach ymddengys rhes o goed o rywogaeth ffawydd ar y safle.
Derbyniwyd bod dymuniad gan y perchennog tir i ddod
a’r coed dan reolaeth, ond
pwysleisiwyd bod angen i unrhyw waith
i’r coed gael ei wneud drwy ddilyn
dulliau gweithio ymarfer da. Amlygwyd bod peth gwaith wedi
ei ymgymryd o docio rhai o’r
coed a hynny
cyn i’r gorchymyn
dros dro gael ei gyhoeddi.
Archwiliwyd y coed 9 Chwefror 2021 yng nghwmni’r perchennog
tir, a nodwyd bod sawl coeden gyda
phydredd a thyllau yn eu boncyff.
Fodd bynnag, ymddengys bod dulliau cynnal neillog ar wahân i
docio yn bosibl (gyda chyngor
arbenigol priodol) fyddai yn golygu
y gellir diogelu’r coed, a rhoi
mynediad rhwydd i’r tirfeddiannwr ar gyfer amaethu’r
tir a chynnal y borfa. Cyfeiriwyd at y 4
dewis oedd gan y Pwyllgor ac argymhellwyd bod y Pwyllgor yn dewis
opsiwn (i), sef cadarnhau’r gorchymyn heb newidiadau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad noddodd y tirfeddiannwr y pwyntiau canlynol ynghyd a dangos fideo byr
o’r coed a’u cyflwr
·
Pwysleisiodd mai ei fwriad oedd tocio'r
coed ac nid eu cwympo - byddai
hyn yn ymestyn
oes y coed oherwydd bod pydredd yn amryw ohonynt
·
Aml i
gangen wedi dod i lawr yn y blynyddoedd diweddar ac yn syrthio i’r lon
·
Wedi dechrau tocio cyn derbyn y gorchymyn
- tocio i uchder o 10’- 12’ - yn wreiddiol wedi cael eu tocio
fel gwrych
·
Gwaith
ysgafnu ar nifer y coed
·
Amlygodd
yn y fideo bod nifer wedi pydru gyda ffwng yn tyfu ar ambell un
· Os dim yn tocio, bydd y coed yn mynd yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6