Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 7)

7 Cais Rhif C20/1063/22/AC - Cefn Graianog, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SY pdf eicon PDF 517 KB

Cais dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C16/0816/34/MW (estyniad arfaethedig dwyreiniol i echdynnu tywod a graean a gwaith adfer graddol) i ganiatáu estyniad pedair blynedd i gwblhau gweithrediadau mwynau a blwyddyn ychwanegol i gwblhau'r gwaith adfer  

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Owain Williams a’r Cynghorydd Craig ab Iago

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C16/0816/34/MW i ymestyn oes y gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol:

 

Daw'r gwaith o echdynnu mwynau i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024 ac erbyn hynny bydd yr holl weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle; bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2025.

 

Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith.

 

Amodau cynllunio fel y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau rheoli a ganlyn;

           Hyd y cyfnod gweithio,

           Cyfyngu ar yr Hawliau Datblygu a Ganiateir, adeiladau, strwythurau, rhai a godir, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys,

           Mesurau lliniaru ar gyfer effeithiau posib ar ffynhonnau i'r gogledd o'r ardal echdynnu,

           Mesurau lliniaru ar gyfer bioamrywiaeth leol, Moch Daear, adar bridio ac ymlusgiaid,

           Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd,

           Oriau Gweithio,

           Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus,

           Ymdrin â phridd a hwsmonaeth

           Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol,

           Adfer i ddefnydd amaethyddol cymysg a chadwraeth natur

           Ail-adfer terfynau caeau

           Micro-addasu lefelau adfer i sicrhau llif dŵr wyneb i'r gwlypdir tua'r gogledd o ardal y cais, 

           Lliniaru a chofnodi archeolegol,

           Mesurau ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth,

           Rheolaethau llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod larymau sŵn gwyn ar beiriannau'r gwaith yn yr wyneb gweithio.

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

a)       Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod safle'r cais ar ystlys ddwyreiniol yr ardal echdynnu bresennol, tua 530m o AHNE Llŷn ac i'r gorllewin o Barc Cenedlaethol Eryri. Ymhelaethodd gan nodi mai'r bwriad yw ail-ymweld â'r ardaloedd yma i ail-weithio'r mwyn a ystyriwyd yn flaenorol i fod yn aneconomaidd, gan hefyd alluogi'r cynllun echdynnu i gael mynediad i ddyddodion pellach gan ymestyn tua'r dwyrain. Ategodd bod ardal yr estyniad arfaethedig yn cynnwys glaswelltir wedi'i wella gyda therfynau caeau o waliau cerrig afreolaidd. Yn ffinio'r ardal, mae'r ardal waith presennol i'r gorllewin, llwybr beicio Lôn Eifion i'r dwyrain ac ardal o laswelltir corsiog, garw i'r gogledd. 

 

Eglurwyd bod Polisi Cynllunio Cymru (PCC) (Rhifyn 11, Chwefror 2021) yn amlinellu polisi cynllunio Llywodraeth y Cynulliad o ran cloddio mwynau. Dylai pob Awdurdod Cynllunio Mwynau sicrhau bod ei gynlluniau datblygu yn caniatáu cyfrannu at gyflenwad mwynau sy’n diwallu anghenion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae Cyngor Gwynedd, ar y cyd â holl Awdurdodau Cymru wedi cymeradwyo’r Datganiad Technegol Rhanbarthol a luniwyd gan Weithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru sydd ar hyn o bryd yn destun ail adolygiad. Paratowyd y datganiad yn unol â darpariaethau Polisi Cynllunio Mwynau (Cymru) a Nodyn Cyngor Technegol (Cymru) 1: Agregau (NCTM1), i osod amcan cyffredinol i sicrhau cyflenwad o agregau y mae modd ei reoli’n gynaliadwy

 

Mae'n ofynnol bod y Cyngor, fel Awdurdod Cynllunio Mwynau, yn cynnal banc tir o fwynau agregau wrth gefn yn unol â'r canllawiau cyfredol sy'n nodi lleiafswm o saith mlynedd ar gyfer tywod a graean. Ers cyhoeddi’r Adolygiad RTS cyntaf, mae lefel gyffredinol yr agregau wrth gefn a ganiatawyd yng ngogledd Cymru wedi gostwng - mae'r bwriad yn ychwanegiad a groesawir i'r banc tir o dywod a graean yng ngogledd orllewin Cymru. 

 

Yn amodol i’r holl ystyriaethau cynllunio materol eraill, ystyriwyd bod y datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi Mwynau Strategol PS22 a Pholisi MWYN 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 – 2026.

 

b)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Y safle wedi hen sefydlu

·         Dim gwrthwynebiad i ymestyn y cyfnod

·         Gwaith adfer yn hanfodol

·         Cais i gynnal trafodaethau ynglŷn â chynnwys plannu coed yn y cynlluniau adfer

·         Bod angen gwarchod Lôn Eifion

 

c) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

ch)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod hyn yn osgoi cario mwynau i mewn o leoliad arall

·           Bod y safle yn cael ei reoli yn dda – dim cwynion wedi eu derbyn

·           Bod yr adnodd ei hangen yng Ngwynedd

·           Bod y safle yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth leol

 

a)    Mewn ymateb i sylw'r Aelod Lleol ynglŷn â phlannu coed, nodwyd bod gwell cyfleoedd o blannu coed a chreu nodweddion nythu yn deillio o’r cais dilynol ( C20  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7