11 Rhif Cais C20/0673/41/MG - Cae Bodlondeb, ger Ael y Bryn, Chwilog, LL53 6SH PDF 335 KB
Cais ar gyfer materion a gadwyd yn ôl a gwybodaeth
draenio a datblygu cam wrth cam mewn cyswllt a chaniatâd cynllunio amlinellol
C16/1603/41/AM ar gyfer codi 9 tŷ sy'n cynnwys 3 fforddiadwy a ffordd
mynediad
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Evans
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Ddirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais
er mwyn cytuno
ar y manylion terfynol y cylfat a derbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned
Draenio Tir
Amodau priffyrdd
Nodyn fod amodau
7 a 10 o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â materion draenio a datblygu gam wrth gam wedi eu
rhyddhau fel rhan o’r caniatâd
yma.
Nodyn SUDS
Cofnod:
Cais ar
gyfer materion a gadwyd yn ôl
a gwybodaeth draenio a datblygu cam wrth gam mewn cyswllt a chaniatâd cynllunio amlinellol C16/1603/41/AM ar gyfer codi 9 tŷ
sy'n cynnwys 3 fforddiadwy a ffordd mynediad.
Tynnwyd sylw at
y ffurflen sylwadau hwyr.
a) Egluroddodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu y caniatawyd y cais amlinellol gyda llunwedd, graddfa, golwg a thirweddu
wedi ei gadw yn ôl, gyda’r cais gerbron ar gyfer asesu y materion hynny ynghyd
a materion draenio a datblygu cam wrth gam sy’n destun amodau rhif 7 a 10 o’r
caniatâd amlinellol. Ategwyd bod
egwyddor y bwriad ynghyd a’r materion yn ymwneud gyda’r fynedfa eisoes
wedi eu caniatáu o dan y cais amlinellol.
Tynnwyd
sylw fod cais cynllunio C20/0674/41/MG hefyd wedi ei
gyflwyno ar ail hanner y safle yng nghyd-destun caniatâd amlinellol
C16/1363/41/AM ar gyfer 9 tŷ ychwanegol (3 ohonynt yn fforddiadwy)
ac sy’n defnyddio’r un fynedfa. O’i ddarfod
byddai’r ddau ddatblygiad yn ymddangos fel un
datblygiad mwy.
Disgrifiwyd
y safle presennol fel rhan o gae
sy’n codi’n raddol o’r briffordd
ac sydd wedi ei leoli tu
ôl i dai
presennol a ger stad Tŷ’n Rhos gyda’r cais yma yn ymwneud a hanner
y safle sydd agosaf i dai
presennol Tŷ’n Rhos, ac sy’n cynnwys
y ffordd fynediad. Amlygwyd bod rhan helaeth o’r safle
erbyn hyn wedi ei leoli
y tu allan
i ffin ddatblygu
pentref Chwilog, er bod y fynedfa yn parhau o fewn
y ffin ddatblygu. Ategwyd bod y cynlluniau a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais gerbron yn cadarnhau’r fynedfa yn unol â’r hyn a
ganiatawyd o dan y caniatâd amlinellol. Mae llunwedd y safle yn dangos bwriad i
ddarparu ffordd stad oddi ar y fynedfa sy’n fforchio; ynghyd a chodi 4 annedd
ar wahân a 3 mewn teras ar ochr chwith y ffordd stad sy’n fforchio i’r chwith.
Nodwyd fod y cais amlinellol yn destun cytundeb 106 sydd yn sicrhau’r elfen
fforddiadwy ynghyd a taliadau ar gyfer llecynnau agored ac addysg.
O ganlyniad,
yr unig faterion
a aseswyd ar gyfer y cais
yma oedd materion dyluniad, llunwedd, graddfa a thirweddu. Adroddwyd bod nodweddion dyluniad amrywiol yn yr
ardal gyda dyluniad, gorffeniad a’r tirweddu bwriedig
yn syml, yn cydweddu’r ardal
ac yn dderbyniol o ran effaith weledol. Nodwyd bod sylwadau gan yr Uned
Drafnidiaeth ynglŷn â threfn parcio a llwybr troed wedi
eu cyflwyno i’r asiant ar
gyfer eu datrys - mater llwybr troed yn golygu
sicrhau fod y cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno
yn cyfateb a'i gilydd. Yn
ddarostyngedig i dderbyn cynlluniau diwygiedig i’r llwybr troed ac amodau i sicrhau
gorffeniad y ffordd stad, datblygiad gam wrth gam a pharcio, ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
TRA 2 a 4 o’r CDLl.
Cyfeiriwyd at sylwadau oedd wedi eu derbyn gan drigolion lleol, yr Aelod Lleol ynghyd â’r Cyngor Cymuned ynglŷn â materion draenio presennol ar y safle sy’n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11