Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 29/04/2021 - Pwyllgor Iaith (eitem 6)

6 CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG 2019 - 2023: CYFRANIAD ADRAN ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 461 KB

Ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

 Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

 

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adran Economi a Chymuned ei hadroddiad gan nodi’r ymatebion a phrif bwyntiau o ran hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn yr adran. Ategodd bod yr adran Economi a Chymuned mewn sefyllfa wahanol i adran fel yr YGC gan fod rhan fwyaf o’r staff yn gallu’r Gymraeg ac yn ei ddefnyddio oherwydd natur eu gwaith. 

 

Cychwynnodd gan bwysleisio bod 97% o staff yr adran wedi cyrraedd y dynodiad iaith ddisgwyliedig. Ategodd bod mwy o waith i wneud ymysg staff sydd wedi bod yn yr adran am amser hir ac yn gallu’r Gymraeg ond ddim yn ei ddefnyddio. Nododd nad oedd heriau recriwtio a bod staff newydd ieuengach yn tueddu i ddefnyddio’u Cymraeg yn naturiol. 

 

Cyfeiriodd at yr adroddiad sy’n cynnwys dolenni perthnasol ar gyfer mwy o wybodaeth ynghylch hyrwyddo’r iaith. Tynnodd sylw at y prif bwyntiau fel a ganlyn; 

·  Bod gan yr adran gobeithion y byddai modd cyllido dilyniant i gynllun Arfor os bydd arian ar gael. 

·  Fuodd cynllun i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i fusnesau sy’n anghyfarwydd a diwylliant Cymreig yn un llwyddiannus er mwyn hybu’r Gymraeg o fewn y sector Twristiaeth. 

·  Ymfalchïodd yn y gwasanaeth llyfrgelloedd lle mae 100% o staff yn siaradwyr Cymraeg ac yn ei ddefnyddio’n naturiol. Fel gweithwyr yn y gymuned, cydnabuwyd bod ganddynt rôl ychwanegol fel hyrwyddwyr iaith ymysg llyfrgellwyr. Rhannodd lythyr gan un o drigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac wedi ymddiddori yn yr iaith o ganlyniad i’r ymdrechion gan y staff. 

·  O ran cytundebau gyda chwmnïau allanol, nododd mai’r gwasanaeth hamdden oedd yr her fwyaf iddynt er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, yn arbennig mewn ardaloedd llai Cymreig yn y Sir. 

·  Eglurodd bod hyn wedi ei ddatrys yn rhannol wrth i gwmni Byw’n Iach gymryd yr awenau. Sicrhaodd bod y cwmni yn glynu at bolisi iaith y Cyngor fel rhan o’u contract 

·  Nododd bod rhwystrau mewn rhai achosion, er enghraifft rhagwelir bydd diffyg Cymraeg mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth Prydain er mwyn trafod cyllid, gan na fydd Llywodraeth Cymru’n gyfrifol dros ddyrannu hwn. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:- 

 

·  Mynegodd aelod ei thristwch na fydd Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am ddyrannu cyllid i raglenni newydd ac ategodd y byddai effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg. 

·  Croesawu twristiaeth gynaliadwy - gwerthu lle fel cyrchfan yn negyddol, neu ormodedd yn dinistrio beth mae’r bobl yn dod i’w cael. 

·  Ymfalchïodd bod newid pwyslais ar y math o dwristiaeth sy’n fuddiol i ardal fel Gwynedd sef y math cynaliadwy. 

·  Cytunodd aelod bod angen i gwmni Byw’n Iach ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg eu staff. Gofynnodd sut mae hyn yn cael ei fesur a herio gan yr adran. 

·  Gofynnodd aelod am fwy o wybodaeth ynghylch y gwahaniaeth fydd rhwng delio a grantiau o Lundain yn hytrach o Gaerdydd a faint o ddylanwad fydd gan y Cyngor i fynnu defnydd o’r Gymraeg. Ategodd bod eisoes enghraifft gyda’r Bwrdd Uchelgais Economaidd sy’n cael ei arwain fwy gan San Steffan ac mae’n  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6