4 CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 260 KB
Gwesty Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, LL41 3NB
I ystyried y cais
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatáu’r cais
Cofnod:
Ar
ran yr eiddo:
Mr Michael
Bewick Gwesty
Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog
Eraill
a wahoddwyd:
Mark Mortimer - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y Cadeirydd y byddai gan
bob parti hawl i hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Gwesty
Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog. Gwnaed y cais mewn
perthynas â gwerthu
alcohol, cerddoriaeth byw ar yr eiddo
a cherddoriaeth wedi ei recordio ar,
ac oddi ar yr eiddo
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu
tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd
yr ymgeisydd yn ei argymell
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn
cael eu cynnwys
ar y drwydded.
Tynnwyd sylw at yr ymatebion
a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sylwadau wedi ei
derbyn gan yr Heddlu ac Adran
Gwarchod y Cyhoedd a bod yr ymgeisydd eisoes
wedi cyfaddawdu i’r amodau a gynigiwyd:
·
Cytunodd drwy gwtogi oriau
chwarae cerddoriaeth oddi ar yr
eiddo am 9y.h.
·
Rhoi cais rhybudd digwyddiad dros dro os
ydynt yn bwriadu cynnal digwyddiad ar ôl
11y.h.
·
Peidio gwagio biniau boteli ac ailgylchu ar ôl
9:30y.h.
·
Cynnal asesiad risg ac i gyflogi
goruchwylwyr drysau os bernir o’r
asesiad risg fod angen hynny,
neu ar unrhyw
adeg arall ar gais a chytundeb
yr Heddlu.
Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais yn unol
â’r hyn a gytunwyd gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd, yr Heddlu
a gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
·
Gwahodd
yr Heddlu i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i'r Heddlu
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded a’r ymgynghorai
b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd
yr ymgeisydd:
·
Bod yr adeilad hanesyddol bellach wedi ei
drosi yn westy moethus
·
Y gobaith yw y bydd y safle,
i’r dyfodol yn rhan o Safle
Treftadaeth y Byd
·
Bod cynnydd yn nifer yr
ymwelwyr i’r ardal – y gwesty yn ymateb i’r
angen
·
Bwriad yw cynnig gwasanaeth o werth uchel ac ansawdd da i ymwelwyr
·
Byddai’r gwesty yn creu
swyddi yn yr ardal
·
Bwriad bod yn gymdogion da a chydweithio gyda’r gymuned – bod cynnig arhosiad diogel a distaw yn rhan o’r
gwasanaeth
c)
Manteisiodd
yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a
gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.
Swyddog Iechyd yr Amgylchedd,
·
Bod Llechwedd wedi cydymffurfio gyda’r holl ofynion
Cyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd gan yr Heddlu
ch) Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei achos ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4