Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 15/06/2021 - Y Cabinet (eitem 7)

7 YSGOL ABERSOCH pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu i’r Cabinet, yn dilyn ystyried sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol, ynghyd â’r ymateb yr Adran Addysg i’r sylwadau hynny

 

      i.        Gymeradwyo cyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol sarn Bach o 1 Ionawr 2022

    ii.        Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams 

 

PENDERFYNIAD

 

Bu i’r Cabinet, yn dilyn ystyried sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol, ynghyd â’r ymateb yr Adran Addysg i’r sylwadau hynny 

 

      i.Gymeradwyo cyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022 

    ii.Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad yw adrodd yn ôl yn dilyn cyfnod ymgynghori statudol ar yr opsiwn i gau Ysgol Abersoch a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Mynegwyd nad oedd y penderfyniad i ddod a’r adroddiad i’r Cabinet wedi bod yn rhwydd ond fod yr adran yn gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn anodd iawn cyflwyno’r adroddiad hwn, ond fod  dyletswydd sicrhau addysg a phrofiadau ac amgylchedd gorau posib i blant. Mynegwyd fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r holl opsiynau posib i’r ysgol. Diolchwyd i’r holl unigolion, disgyblion, athrawon a llywodraethwyr ar roi eu hamser i ymateb i’r ymgynghoriad statudol.

 

Mynegwyd fod yr angen wedi codi i edrych ar ddyfodol Ysgol Abersoch y dilyn gostyngiad yn nifer y disgyblion Nodwyd fod niferoedd Ysgol Abersoch wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf a bellach fod 76% o gapsiti’r ysgol yn wag gyda rhag amcanion am y blynyddoedd nesaf yn dangos fod y niferoedd am barhau yn isel.

 

Bu i’r Pennaeth Addysg nodi yn ôl yn Mai 2019 y bu i’r Cabinet gytuno i gefnogi cynnal trafodaeth ffurfiol gyda chorff llywodraethol yr Ysgol i drafod opsiynau posib yn dilyn lleihad yn y nifer y disgyblion. Bu i 3 cyfarfod ei gynnal a oedd yn gyfle i egluro’r angen i drafod opsiynau, i gyflwyno a thrafod yr opsiynau cyn dod i benderfyniad ar yr opsiwn ffarfredig.

 

Yn ôl ym Medi 2020 nodwyd y bu i’r Cabinet ymgymryd â’r proses ymgynghori statudol ar gynnig i gau Ysgol Abersoch Awst 2021, gan gynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Bu i’r penderfyniad gan ei gadarnhau yn y Cabinet ar y 5ed o Dachwedd wedi i’r penderfyniad gael ei alw mewn i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Hydref.

 

Amlygodd y Pennaeth Addysg y prif heriau oedd yn wynebu’r ysgol a oedd yn cynnwys niferoedd disgyblion wedi gostwng ers 2016. Mynegwyd fod 8 disgybl yn yr ysgol yn llawn amser ar hyn o bryd gyda 2 ddisgybl yno rhan amser. Ychwanegwyd fod y rhagolygon yn nodi y bydd 10 disgybl yn 2021, a 12 yn 2022 a 2023. Esboniwyd fod data yn amlygu fod 21 o blant yn nalgylch Abersoch yn mynychu ysgolion arall a bod 3 disgybl o du hwnt i ddalgylch Aberoch yn mynychu’r ysgol. Mynegwyd fod niferoedd isod yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau. Tynnwyd sylw at  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7

Awdur: Gwern ap Rhisiart