8 YMATEB I'R ADRODDIAD "AIL GARTREFI - DATBLYGU POLISIAU NEWYDD YNG NGHYMRU PDF 508 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfirg Siencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cytunwyd ar ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi –
Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan
amlygu’n benodol yr angen i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor
Byr a Threthi Busnes.
Cytunodd yr Arweinydd i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i
Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau a gweithredu’r argymhellion
mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r argyfwng tai sy’n wynebu
cymunedau Gwynedd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Dyfrig Siencyn.
PENDERFYNIAD
Cytunwyd ar
ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng
Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan amlygu’n benodol yr angen
i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes.
Cytunodd yr Arweinydd
i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau
a gweithredu’r argymhellion mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r
argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Gwynedd.
.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen
ymatebiad i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru”
gan y Dr Simon Brooks, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg.
Mynegwyd fod Dr Brooks wedi cysylltu â’r Cyngor a bod nifer o’r argymhellion
wedi dod o adroddiad a gyflwynwyd gan yr Adran Amgylchedd i’r Cabinet yn ôl ym
mis Rhagfyr.
Eglurwyd fod
deuddeg argymhelliad yn yr adroddiad a bod angen i’r Cyngor ymateb i’r
adroddiad. Amlygwyd mai dim ond un argymhelliad mae’r Cyngor yn anghytuno a hi
sef argymhelliad 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes. Mynegwyd yr
angen i bob annedd gael ei gyfrif fel annedd ac yn cael ei orfodi i dalu treth
Cyngor ac unrhyw bremiwm sydd yn cyd-fynd ar annedd hwn. Nodwyd fod yr
adroddiad yn un clodwiw ac o bwys ac ategwyd yr awydd i yrru neges at y
Llywodraeth at ymateb y Cyngor i’r adroddiad.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi
tynnu ar lawer o ffynonellau a'i bod yn holl
bwysig i’r Cyngor ymateb gan fod
problem ail gartrefi yng Nghywydd ar ei
gwaethaf. Amlygwyd y camau mae’r Cyngor wedi ei wneud
yn barod i daclo’r broblem
a oedd yn cynnwys mabwysiadu Polisi Gosod Newydd
fel bod y flaenoriaeth ar bobl leol,
gwneud defnydd o godi Premiwm Treth
Cyngor ar ail gartrefi gan fuddsoddi’r arian ychwanegol mewn Cynllun Gweithredu
Tai. Pwysleisiwyd fod y
Cyngor wedi gwneud popeth o fewn eu
gallu ar gyfer y sefyllfa ynghyd a chomisiynu gwaith penodol er mwyn edrych
i’r broblem. Cefnogwyd adroddiad Dr Simon
Brooks gan bwysleisio fod nifer o argymhellion
a wnaethpwyd gan y Cyngor yn y gwaith comisiwn
i’w gweld yn yr adroddiad.
Eglurwyd i wneud gwahaniaeth mwyaf mae angen canolbwyntio ar yr argymhellion sydd am wneud gwahaniaeth ac amlygwyd 3 argymhelliad. Y cyntaf oedd Argymhelliad 7, gan ei fod wedi ei amlygu fel un o brif broblemau’r trigolion sef fod ail gartrefi ddim yn talu treth Cyngor wrth symud i dreth fusnes bach. Pwysleisiwyd yr angen i rwystro hyn rhag digwydd fel eu bod yn cyfrannu i’r Cyngor ac efallai gyda’r premiwm yn rhwystro eraill rhag prynu ail gartref. Yr ail flaenoriaeth oedd sicrhau fod dosbarth derbyn penodol er mwyn newid cartref o fod yn annedd i fod yn ail gartref a drwy hyn fod angen cais cynllunio. A'r trydydd er mwyn cael y dystiolaeth ar gyfer y ceisiadau cynllunio od angen cynllun trwyddedu ar gyfer dai gwyliau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8
Awdur: Dafydd Gibbard