Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 15/06/2021 - Y Cabinet (eitem 8)

8 YMATEB I'R ADRODDIAD "AIL GARTREFI - DATBLYGU POLISIAU NEWYDD YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 508 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfirg Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan amlygu’n benodol yr angen i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes.

 

Cytunodd yr Arweinydd i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau a gweithredu’r argymhellion mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd ar ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan amlygu’n benodol yr angen i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes.  

 

Cytunodd yr Arweinydd i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau a gweithredu’r argymhellion mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Gwynedd.  

. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen ymatebiad i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” gan y Dr Simon Brooks, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg. Mynegwyd fod Dr Brooks wedi cysylltu â’r Cyngor a bod nifer o’r argymhellion wedi dod o adroddiad a gyflwynwyd gan yr Adran Amgylchedd i’r Cabinet yn ôl ym mis Rhagfyr.

 

Eglurwyd fod deuddeg argymhelliad yn yr adroddiad a bod angen i’r Cyngor ymateb i’r adroddiad. Amlygwyd mai dim ond un argymhelliad mae’r Cyngor yn anghytuno a hi sef argymhelliad 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes. Mynegwyd yr angen i bob annedd gael ei gyfrif fel annedd ac yn cael ei orfodi i dalu treth Cyngor ac unrhyw bremiwm sydd yn cyd-fynd ar annedd hwn. Nodwyd fod yr adroddiad yn un clodwiw ac o bwys ac ategwyd yr awydd i yrru neges at y Llywodraeth at ymateb y Cyngor i’r adroddiad.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi tynnu ar lawer o ffynonellau a'i bod yn holl bwysig i’r Cyngor ymateb gan fod problem ail gartrefi yng Nghywydd ar ei gwaethaf. Amlygwyd y camau mae’r Cyngor wedi ei wneud yn barod i daclo’r broblem a oedd yn cynnwys mabwysiadu Polisi Gosod Newydd fel bod y flaenoriaeth ar bobl leol, gwneud defnydd o godi Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi gan fuddsoddi’r arian ychwanegol mewn Cynllun Gweithredu Tai. Pwysleisiwyd fod y Cyngor wedi gwneud popeth o fewn eu gallu ar gyfer y sefyllfa ynghyd a chomisiynu gwaith penodol er mwyn edrych i’r broblem. Cefnogwyd adroddiad Dr Simon Brooks gan bwysleisio fod nifer o argymhellion a wnaethpwyd gan y Cyngor yn y gwaith comisiwn i’w gweld yn yr adroddiad.

 

Eglurwyd i wneud gwahaniaeth mwyaf mae angen canolbwyntio ar yr argymhellion sydd am wneud gwahaniaeth ac amlygwyd 3 argymhelliad. Y cyntaf oedd Argymhelliad 7, gan ei fod wedi ei amlygu fel un o brif broblemau’r trigolion sef fod ail gartrefi ddim yn talu treth Cyngor wrth symud i dreth fusnes bach. Pwysleisiwyd yr angen i rwystro hyn rhag digwydd fel eu bod yn cyfrannu i’r Cyngor ac efallai gyda’r premiwm yn rhwystro eraill rhag prynu ail gartref. Yr ail flaenoriaeth oedd sicrhau fod dosbarth derbyn penodol er mwyn newid cartref o fod yn annedd i fod yn ail gartref a drwy hyn fod angen cais cynllunio. A'r trydydd er mwyn cael y dystiolaeth ar gyfer y ceisiadau cynllunio od angen cynllun trwyddedu ar gyfer dai gwyliau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8

Awdur: Dafydd Gibbard