Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 16/06/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Canolog (eitem 4)

4 CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 259 KB

Canolfan y Fron, Llandwrog, Caernarfon, LL54 7BB.

 

I ystyried y cais

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu’r cais

 

Cofnod:

1.            CAIS AM DRWYDDED EIDDO – Canolfan y Fron, Llandwrog, Caernarfon

 

Ar ran yr eiddo: 

 

Mike Elsden (ymgeisydd) 

Eiriona Williams (cynrychiolydd yr ymgeisydd)

 

Eraill a wahoddwyd:

 

Preswylwyr Cyfagos:

 

Edward Willcox

Jim Embrey

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Canolfan y Fron, Llandwrog, Caernarfon. Gwnaed y cais mewn perthynas â dangos ffilmiau, dramâu, chwaraeon o dan do, paffio neu adloniant ymgodymu, cerddoriaeth byw ac wedi ei recordio, perfformiadau dawns a gwerthu alcohol. 

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sawl gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan breswylwyr cyfagos a Chymdeithas Preswylwyr y Fron oedd yn cynnwys deiseb wedi ei arwyddo gan 36 o breswylwyr yn nodi amodau ac amseroedd derbyniol. Nid oedd sylwadau na gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tan.

 

Roedd y gwrthwynebiadau yn cyfeirio at bob un o’r amcanion trwyddedu. Mynegwyd pryderon ar faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn, niwsans cyhoeddus, materion glanweithiol, parcio a throsedd ac anrhefn. Nodwyd hefyd nad oedd Pwyllgor y Ganolfan wedi ceisio ymgynghoriad cyhoeddus o flaen llaw, a bod oriau arfaethedig yr ymgeisydd yn codi pryder.

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn ystyried pryderon y preswylwyr cyfagos ac yn cymeradwyo’r cais yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003. 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd:

·      Ni fydd adloniant yn cael ei gynnal tu allan ar ôl 22:00

·      Ni fydd alcohol yn cael ei werthu o’r siop ar ôl 21:00

·      Ni fydd alcohol yn cael ei werthu o’r bwyty ar ôl 21:00

·      Oriau arferol yw 8:30 – 17:30

·      Gobaith yw cynnal digwyddiadau ac felly’r angen yn codi am estyniad mewn oriau. Nid oes sicrwydd ar hyn o bryd oherwydd nad oes ceisiadau am ddigwyddiad wedi ei dderbyn

·      Bwriad gohebu gyda’r gymuned leol pan gyflwyni’r cais am ddigwyddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â niferoedd staff nodwyd mai gwirfoddolwyr rhan amser sydd yn staffio'r siop gyda chogydd a thri arall yn helpu yn y bwyty. Cadarnhawyd bod y Cogydd sydd a’i enw ar y drwydded bresennol wedi ymddiswyddo a bod Cogydd newydd wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4