4 CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 259 KB
Canolfan y Fron, Llandwrog, Caernarfon, LL54 7BB.
I ystyried y cais
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatáu’r cais
Cofnod:
1.
CAIS AM DRWYDDED EIDDO – Canolfan y Fron,
Llandwrog, Caernarfon
Ar
ran yr eiddo:
Mike Elsden (ymgeisydd)
Eiriona Williams (cynrychiolydd yr ymgeisydd)
Eraill
a wahoddwyd:
Preswylwyr
Cyfagos:
Edward Willcox
Jim Embrey
Aelod Lleol: Cynghorydd Dilwyn Lloyd
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer
Canolfan y Fron, Llandwrog, Caernarfon. Gwnaed y cais mewn perthynas â dangos
ffilmiau, dramâu, chwaraeon o dan do, paffio neu adloniant ymgodymu,
cerddoriaeth byw ac wedi ei recordio, perfformiadau dawns a gwerthu alcohol.
Nodwyd bod gan Swyddogion
yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol
â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sawl
gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan breswylwyr cyfagos a Chymdeithas Preswylwyr y
Fron oedd yn cynnwys deiseb wedi ei arwyddo gan 36 o breswylwyr yn nodi amodau
ac amseroedd derbyniol. Nid oedd sylwadau na gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan
yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tan.
Roedd y
gwrthwynebiadau yn cyfeirio at bob un o’r amcanion trwyddedu. Mynegwyd pryderon
ar faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn, niwsans cyhoeddus, materion
glanweithiol, parcio a throsedd ac anrhefn. Nodwyd hefyd nad oedd Pwyllgor y
Ganolfan wedi ceisio ymgynghoriad cyhoeddus o flaen llaw, a bod oriau
arfaethedig yr ymgeisydd yn codi pryder.
Argymhellwyd fod y
Pwyllgor yn ystyried pryderon y preswylwyr cyfagos ac yn cymeradwyo’r cais yn
unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr
ymgeisydd:
·
Ni
fydd adloniant yn cael ei gynnal tu allan ar ôl 22:00
·
Ni
fydd alcohol yn cael ei werthu o’r siop ar ôl 21:00
·
Ni
fydd alcohol yn cael ei werthu o’r bwyty ar ôl 21:00
·
Oriau
arferol yw 8:30 – 17:30
·
Gobaith yw cynnal digwyddiadau ac felly’r angen yn
codi am estyniad mewn oriau. Nid oes sicrwydd ar hyn o bryd oherwydd nad oes
ceisiadau am ddigwyddiad wedi ei dderbyn
·
Bwriad gohebu gyda’r gymuned leol pan gyflwyni’r
cais am ddigwyddiad
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â niferoedd staff nodwyd mai gwirfoddolwyr rhan amser sydd yn staffio'r siop gyda chogydd a thri arall yn helpu yn y bwyty. Cadarnhawyd bod y Cogydd sydd a’i enw ar y drwydded bresennol wedi ymddiswyddo a bod Cogydd newydd wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4