Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/07/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C21/0430/22/LL Tir gerllaw Oxton Villa Ffordd Haearn Bach, Penygroes, LL54 6NY pdf eicon PDF 335 KB

Cais ar gyfer codi ty fforddiadwy gyda mynedfa a parcio a tirweddu cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Gohirio y penderfyniad er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda'r ymgeisydd i ganfod

  • Beth yw’r ‘angen’ presennol?
  • A yw wedi ystyried rhoi tŷ arall fforddiadwy ar y safle i gael mwy o werth allan o’r plot?
  • A yw’n fodlon ystyried cytundeb 106 tŷ fforddiadwy angen lleol ar yr eiddo?

 

Cofnod:

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli mewn cae amaethyddol ar gyrion pentref Penygroes ar hyd  ffordd gul sy’n troi’n llwybr cyhoeddus. Amlygwyd bod y cais yn ail gyflwyniad o’r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0853/22/LL ac wedi ei gyflwyno gerbron y pwyllgor cynllunio ar gais yr Aelod Lleol.

 

Eglurwyd bod Polisi TAI 16 ‘Safleoedd Eithrio’ yn datgan os gellid dangos bod angen lleol wedi’i brofi am dai fforddiadwy na ellid ei gyfarch o fewn amserlen resymol ar safle marchnad tu mewn i’r ffin datblygu, fel eithriad caniateir cynigion am gynlluniau 100% tai fforddiadwy ar safleoedd sy’n union gerllaw’r ffiniau datblygu sy’n ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle.

 

Adroddwyd nad oedd gwybodaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn nodi bod safle’r cais yn cyffwrdd â’r ffin ddatblygu – ymddengys bod bwlch rhwng y safle a’r ffin ddatblygu yn ymddangos fel llwybr cyhoeddus. Yn nhermau polisi cynllunio mae’r safle wedi ei ddiffinio fel lleoliad yng nghefn gwlad agored ac felly nid yw’n berthnasol ei ystyried yn nhermau Polisi TAI 16, ‘Safleoedd Eithrio’  - ceir hyn ei ategu yn y Canllaw Cynllunio Atodol ‘Tai Fforddiadwy’.

 

Nodwyd bod y bwriad yn cael ei gynnig fel tŷ fforddiadwy. Er bod Tai Teg wedi cadarnhau bod yr ymgeisydd yn addas ar gyfer prynu eiddo fforddiadwy neu eiddo fforddiadwy i’w adeiladu ei hun, nid oedd gwybodaeth bellach ynglŷn ag angen penodol yr ymgeisydd am dŷ fforddiadwy wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais. Amlygwyd bod arwynebedd llawr mewnol y tŷ unllawr dwy lofft oddeutu 110m sgwâr sydd yn 50m sgwâr yn fwy na’r uchafswm a nodir yn y Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer tŷ unllawr 2 ystafell wely fforddiadwy. Nodwyd hefyd bod uchder y prif do yn golygu bod potensial i ddarparu llawr ychwanegol uwchben rhan o’r tŷ yn y dyfodol. Ystyriwyd bod safle’r cais (sydd yn cynnwys y tŷ bwriedig a’i gwrtil) yn fawr iawn ac y byddai darparu cwrtil o’r maint yma yn debygol o godi gwerth yr eiddo a all olygu na fydd y tŷ yn fforddiadwy o ran ei bris. Ar sail hyn, ystyriwyd y bwriad yn groes i ofynion polisi TAI 15 o’r CDLl a CCA Tai Fforddiadwy o ran yr arwynebedd llawr sydd wedi ei ddangos.

 

Eglurwyd bod polisi PCYFF 2 yn darparu meini prawf datblygu ac yn datgan fod yn rhaid i gynigion gydymffurfio gyda holl bolisïau perthnasol y Cynllun a pholisïau a chanllawiau Cenedlaethol yn y lle cyntaf. Ategwyd bod y polisi yn rhestru cyfres o feini prawf sy’n ymwneud a gwneud y defnydd gorau o dir, ymgorffori gofod mwynderol, cynnwys darpariaeth ar gyfer storio, ailgylchu a rheoli gwastraff, a chynnwys darpariaeth ar gyfer trin a chael gwared a rhywogaethau ymwthiol yn effeithiol. Yn arferol byddai disgwyl i safle o’r maint yma ddarparu oddeutu 3 uned byw - disgwylir darparu tai newydd ar raddfa o 30 uned byw yr hectar. 

 

Ystyriwyd y bwriad arfaethedig yn annerbyniol, ac yn groes i ofynion polisïau lleol a chenedlaethol.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6