Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/07/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 12)

12 Cais Rhif C21/0332/42/DA Terfyn Lôn Terfyn, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BA pdf eicon PDF 470 KB

Diwygiadau ansylweddol i ganiatâd C19/0982/42/LL i gynyddu maint feranda a mynediad droed

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth M Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Caniatau gydag amodau

 

Diwygiad Ansylweddol :

 

Cwblheir y diwygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun rhif 03/DR19, a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 21 Mehefin 2021, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C19/0982/42/LL.

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Diwygiadau ansylweddol i ganiatâd C19/0982/42/LL i gadw cynnydd ym maint y feranda

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn un am ddiwygiad ansylweddol i ganiatâd cynllunio C19/0982/42/LL i gadw gwaith o ymestyn feranda ar yr eiddo. Eglurwyd bod ffrâm y feranda eisoes wedi ei adeiladu, ond nad yw’r to llechi wedi ei osod. Ategwyd bod y colofnau yn ymestyn 1.6m allan o wal flaen yr eiddo - 50cm yn fwy na’r caniatâd cynllunio a gymeradwywyd eisoes. Cyflwynwyd y cais i geisio cadw’r newidiadau yn dilyn camau gorfodaeth cychwynnol ac ar gais yr Aelod Lleol

 

Eglurwyd, o dan Rhan 96 A o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mae modd cyflwyno ceisiadau am Ddatblygiadau Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio presennol ers 1 Medi 2014. Mae Canllaw Cynllunio: Cymeradwyo Diwygiad Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio sy’n Bodoli Eisoes gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn a ystyrir yn ddatblygiad ansylweddol gyda phrofion asesu  pendant wedi eu rhestru.

 

Ni ystyriwyd y byddai’r newid bychan yma yn amlwg wrth edrych ar y safle o unrhyw fan cyhoeddus ac wrth nodi sylwadau’r cymydog, ni ystyriwyd y byddai unrhyw effeithiau mwynderol niweidiol ychwanegol yn deillio o’r newid.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Eu bod wedi symud i’r ardal tua dwy flynedd yn ôl ac wedi prynu Terfyn gyda'r bwriad o adnewyddu'r eiddo a oedd, yn anffodus, yn dadfeilio.

·         Ystyriwyd bod y datblygiad yn Terfyn wedi bod yn unol ag arddull yr eiddo ac ar gost ychwanegol sylweddol, wedi cynnal ffasâd yr adeilad

·         Camgymeriad syml rhyngddo ef a'r adeiladwr oedd gwraidd yr angen i addasu’r feranda, gyda’r adeiladwr yn ei adeiladu ychydig yn rhy ddwfn o'i gymharu â'r cynlluniau a gyflwynwyd.

·         Fe’u cynghorwyd gan y swyddog cynllunio i ailgyflwyno diwygiadau ansylweddol i'r cynlluniau gwreiddiol a wnaed ym mis Mawrth 2021

·         Derbyniwyd bod gwrthwynebiadau wedi'u codi ynghylch maint y feranda a hefyd y byddai’n effeithio preifatrwydd eiddo cyfagos

·         Gan fod y feranda wedi'i hadeiladu'n rhannol yn unig, gellid derbyn y byddai  pryderon yn codi gan y gallai ymddangos, yn ei chyflwr hanner adeiledig, bod  to'r feranda yn wastad, ac y byddai'n bosibl i rywun gerdded allan i'r feranda a chael golygfeydd sylweddol dros eiddo cyfagos

·         Bydd y feranda orffenedig yn un o lechi yn unol â tho presennol yr eiddo ac ni fydd yn bosib cerdded arno - nid yw’r honiad felly y byddai’r feranda yn cael effaith andwyol ar breifatrwydd yn ddilys

·         Nid ydynt wedi gwneud unrhyw newidiadau i arddull a maint a lleoliad nac ar  ffenestri'r eiddo felly nid oes unrhyw newid sylweddol i'r elfen breifatrwydd sy'n effeithio ar unrhyw eiddo cyfagos - ategir hyn gan asesiad y swyddog cynllunio sydd wedi ystyried ystyriaethau cynllunio deunydd o dan adran 96A o ddeddf cynllunio tref a gwlad 1990

·         Bod y swyddogion cynllunio yn nodi na ellid cytuno â'r honiad bod y newid yn or-ddatblygiad neu'n sylweddol wahanol i'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12