12 Cais Rhif C21/0332/42/DA Terfyn Lôn Terfyn, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BA PDF 470 KB
Diwygiadau
ansylweddol i ganiatâd C19/0982/42/LL i gynyddu maint feranda a mynediad droed
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth M Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Caniatau
gydag amodau
Diwygiad
Ansylweddol :
Cwblheir y
diwygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun
rhif 03/DR19, a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 21 Mehefin 2021, ac
a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os
nad oes amod sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y
diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn
cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio
rhif C19/0982/42/LL.
Cofnod:
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
Diwygiadau ansylweddol i ganiatâd C19/0982/42/LL i gadw cynnydd
ym maint y feranda
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio
bod y cais yn un am ddiwygiad ansylweddol i ganiatâd
cynllunio C19/0982/42/LL i gadw gwaith o ymestyn
feranda ar yr eiddo. Eglurwyd
bod ffrâm y feranda eisoes wedi ei
adeiladu, ond nad yw’r
to llechi wedi ei osod. Ategwyd
bod y colofnau yn ymestyn 1.6m allan
o wal flaen yr eiddo - 50cm yn fwy na’r
caniatâd cynllunio a gymeradwywyd eisoes. Cyflwynwyd y cais i geisio cadw’r
newidiadau yn dilyn camau gorfodaeth
cychwynnol ac ar gais yr Aelod
Lleol
Eglurwyd, o dan Rhan 96 A o’r Ddeddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mae modd cyflwyno ceisiadau
am Ddatblygiadau Ansylweddol
i Ganiatâd Cynllunio presennol ers 1 Medi 2014. Mae Canllaw Cynllunio: Cymeradwyo Diwygiad Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio
sy’n Bodoli Eisoes gan Lywodraeth
Cymru ar yr hyn a ystyrir
yn ddatblygiad ansylweddol gyda phrofion asesu pendant wedi eu rhestru.
Ni ystyriwyd y byddai’r newid bychan yma
yn amlwg wrth edrych ar
y safle o unrhyw fan cyhoeddus ac wrth nodi sylwadau’r cymydog, ni
ystyriwyd y byddai unrhyw effeithiau mwynderol niweidiol ychwanegol yn deillio
o’r newid.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Eu bod
wedi symud i’r ardal tua dwy flynedd yn ôl ac wedi prynu Terfyn gyda'r bwriad o
adnewyddu'r eiddo a oedd, yn anffodus, yn dadfeilio.
·
Ystyriwyd
bod y datblygiad yn Terfyn wedi bod yn unol ag arddull yr eiddo ac ar gost
ychwanegol sylweddol, wedi cynnal ffasâd yr adeilad
·
Camgymeriad
syml rhyngddo ef a'r adeiladwr oedd gwraidd yr angen i addasu’r feranda, gyda’r
adeiladwr yn ei adeiladu ychydig yn rhy ddwfn o'i gymharu â'r cynlluniau a
gyflwynwyd.
·
Fe’u cynghorwyd gan y
swyddog cynllunio i ailgyflwyno diwygiadau ansylweddol i'r cynlluniau
gwreiddiol a wnaed ym mis Mawrth 2021
·
Derbyniwyd bod gwrthwynebiadau wedi'u
codi ynghylch maint y feranda a hefyd y byddai’n effeithio preifatrwydd eiddo cyfagos
·
Gan fod y feranda wedi'i hadeiladu'n rhannol yn unig,
gellid derbyn y byddai pryderon yn codi
gan y gallai ymddangos, yn ei
chyflwr hanner adeiledig, bod to'r feranda yn
wastad, ac y byddai'n bosibl i rywun
gerdded allan i'r feranda a chael
golygfeydd sylweddol dros eiddo cyfagos
·
Bydd y feranda orffenedig
yn un o lechi yn unol â tho
presennol yr eiddo ac ni fydd
yn bosib cerdded arno - nid yw’r honiad
felly y byddai’r feranda yn cael effaith
andwyol ar breifatrwydd yn ddilys
·
Nid ydynt wedi gwneud unrhyw newidiadau
i arddull a maint a lleoliad nac ar ffenestri'r eiddo felly nid oes unrhyw newid
sylweddol i'r elfen breifatrwydd sy'n effeithio ar unrhyw eiddo
cyfagos - ategir hyn gan asesiad
y swyddog cynllunio sydd wedi ystyried
ystyriaethau cynllunio deunydd o dan adran
96A o ddeddf cynllunio tref a gwlad 1990
· Bod y swyddogion cynllunio yn nodi na ellid cytuno â'r honiad bod y newid yn or-ddatblygiad neu'n sylweddol wahanol i'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12