14 Cais Rhif C21/0368/42/DT Tyn y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6LN 
 PDF 303 KB 
						
				
Estyniad ochr
unllawr
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gruffydd Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Gwrthod y
cais yn groes i’r argymhelliad
COFNODION:
a)   
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y
cais yn gais llawn i adeiladu estyniad unllawr yn mesur 4.5 medr x
3.6 medr fyddai’n cynnwys ystafell gardd ar fwthyn unllawr wedi ei leoli ar
lethrau Mynydd Nefyn. Nodwyd bod y tai preswyl agosaf dros 40 medr i’r gogledd
a gogledd ddwyrain o’r estyniad bwriededig a bod y cais wedi ei gyflwyno i
Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.
Eglurwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y caniateir
cynigion, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol,
os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf sy’n cynnwys, bod y cynnig
·        
yn
ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y
gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y mas a’r driniaeth i’r
drychiadau
·        
parchu
cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol; 
·        
defnyddio
deunyddiau sy’n briodol i’r hyn sydd o’u hamgylch ac yn ymgorffori tirlunio
meddal;
·        
gwella
rhwydwaith cludiant a chyfathrebu diogel ac integredig; 
·        
cyfyngu
rhediad dwr a pherygl risg llifogydd ac atal llygredd; 
·        
cyflawni
dyluniad cynhwysol 
·        
galluogi
mynediad i bawb 
·        
helpu creu
amgylcheddau iach a bywiog gan ystyried iechyd a lles defnyddwyr y dyfodol. 
Amlygwyd
bod yr estyniad yn cynnwys ystafell gardd gyda ffenestri gwydr sylweddol o
faint a graddfa dderbyniol ac addas ar gyfer y lleoliad. Er bod
y safle yn uchel ar lethrau Mynydd Nefyn gyda golygfeydd dros  yr arfordir, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad
yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fwynderau a chymeriad yr AHNE cyfagos
oherwydd natur y tirwedd lleol a llys tyfiant o fewn yr ardal leol.  Mewn ymateb i wrthwynebiad a dderbyniwyd yn
honni effaith y bwriad ar y bwthyn ynghyd a’r AHNE nodwyd, er bod bwriad
adeiladu’r estyniad o ddeunydd a dyluniad cyfoes, ni fyddai lleoliad yr
estyniad ar dalcen y bwthyn ynghyd a’i faint yn amharu yn sylweddol ar
edrychiad a chymeriad yr eiddo na’r AHNE.
b)   
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·        
Cais
ydoedd am ystafell ardd fach ar ochr ffrynt Orllewinol y bwthyn.
·        
Pwrpas yr
estyniad fyddai darparu lle byw ychwanegol a chael mwy o olau i mewn i'r eiddo.
·        
Gan ei fod yn fwthyn bach Cymreig
mae'n eithaf tywyll gyda ffenestri bach iawn yn wynebu'r Gogledd.
·        
Trwy agor
pen y talcen  a gosod gwydr, y gobaith yw
cael mwy o oleuni i mewn i’r eiddo a chaniatáu iddynt wneud y gorau o'r
golygfeydd hyfryd ar draws Bae Nefyn a Phorthdinllaen.
·        
Byddai'r
estyniad ar y talcen yn cael ei adeiladu o wydr yn bennaf, ond defnyddio teils
llechi Cymreig ar y to i gyd-fynd â'r teils presennol gan gadw cymeriad yr
adeiladwaith gwreiddiol.
·        
Bod y
cynnig yn unol â chymeriad yr ardal ac yn gynnig cymharol gymedrol o'i gymharu
â llawer o estyniadau tebyg 
c)   
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·        
Atgoffwyd
yr Aelodau o ofynion statudol gwarchod yr AHNE
·        
Bod
bythynnod traddodiadol ar hyd y mynydd 
·        
Dim angen
gor-ddatblygiadau ar lechweddau’r Mynydd
· Bod tri llwybr cyhoeddus yn ... view the full COFNODION text for item 14