8 TRAFNIDIAETH - GWERTH CYMDEITHASOL PDF 194 KB
I Ddiweddaru’r Pwyllgor
am y cynnydd hyd yma.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Bennaeth yr Adran Amgylchedd a chychwynnwyd drwy atgoffa’r Pwyllgor o brif
faterion ynghylch cludiant cyhoeddus sef y gost, gorddibyniaeth ar rhai cwmnïau
penodol, a gorddibyniaeth pobl ar fysiau. Pwysleisiwyd bod y rhwydwaith bysiau
wedi datblygu yn ddiweddar ac ategwyd bod anghenion trigolion wedi newid o
ganlyniad i newid arferion dros y cyfnod pandemig.
Trafodwyd y prif faterion yr
ystyriwyd wrth greu’r adolygiad strategol dan sylw, gan gynnwys y canlynol:
- Adnabod yr angen sydd ym mhob
cymuned gan fod rhai yn hollol ddibynnol ar deithiau penodol er mwyn cyfarch eu
hanghenion sylfaenol.
- Y gwaith ymgysylltu sydd wedi
digwydd yn lleol er mwyn defnyddio’r ymatebion i adnabod yr angen.
- Adnabod beth yw’r gwerth
cymdeithasol buddsoddi mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
- Atgoffwyd bod sefyllfa
Gwynedd fel ardal fwy gwledig yn creu fwy o heriau ynghylch anghenion
trafnidiaeth.
- Trafodwyd yr her o ysgogi
defnyddwyr i deithio ar fysiau unwaith eto ar ôl cyfnod o ddefnydd isel.
Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y
sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
- Diolchwyd am y wybodaeth
ddefnyddiol o fewn yr adroddiad a nodwyd bod colli gwasanaeth mewn rhai
cymunedau wedi bod yn ergyd gan fod llawer o bobl eu hangen ar gyfer ymweld â’r
deintydd neu feddyg.
- Cynigwyd bod angen edrych ar
amserlen y bysiau er enghraifft cynnig gwasanaeth cynharach er mwyn defnyddio
at ddibenion gwaith neu addysg.
- Gofynnwyd am eglurder o ran y
wybodaeth ar dudalen 33 o’r rhaglen am Wasanaeth Rhif 14 yn adroddiad y
Brifysgol.
- Holwyd a oes trafodaethau
ynghylch y bysiau wennol gan eu bod yn darfod yn gynnar, a byddai teithiau
hwyrach yn fantais i bentrefi a threfi elwa o ymwelwyr.
- Ategwyd y byddai bysiau
hwyrach yn galluogi pobl parcio yng Nghaernarfon a theithio i Eryri yn hytrach
na pharcio ger y mynyddoedd.
- Holwyd a ydi’r amserlen yn
adlewyrchu angen presennol y bobl leol gan fod bysiau yn
pasio’n hanner gwag.
- Ategwyd bod angen ysgogi hen
ddefnyddwyr i ddychwelyd yn ôl i ddefnyddio’r bysiau gan fod gwerth cymdeithasol
uchel i bobl fynd i siopa a theithiau tebyg.
Mewn ymateb i sylwadau’r
aelodau, nododd y Pennaeth Adran Amgylchedd y canlynol:-
- Bod yr adran yn ceisio pwyso
ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu hamserlenni fodd bynnag maent yn awyddus bod
yna daith eithaf sydyn drwy Gymru.
- Nododd bod awgrym i’r
Llywodraeth Cymru bod bob yn ail daith y gwasanaeth T2 yn mynd i mewn i
gymunedau a’r gweddill yn fwy uniongyrchol drwy Gymru.
- Eglurodd bod adran newid
hinsawdd wedi ei sefydlu o fewn y Llywodraeth a’u bod yn canolbwyntio ar
gludiant cyhoeddus a threnau bysiau er mwyn lleihau ôl troed carbon.
- Byddai’n cysylltu gyda’r
aelod o ran y wybodaeth am Wasanaeth Rhif 14.
- Mewn perthynas â’r sefyllfa
parcio ar gyfer ymweld ag Eryri, nododd bod gwaith yn digwydd ar y cyd efo Parc
Cenedlaethol er mwyn edrych ar ddatrysiadau i leihau’r defnydd o drafnidiaeth
bersonol.
- Cytunwyd bod angen diwygio’r amserlen fel bod teithiau hwyrach ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8