10 GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS : RHEOLI CŴN PDF 252 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus
mewn perthynas â rheoli cŵn ledled y sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig
a atodir ar y sail eu bod yn fodlon bydd y prawf o dan adran 59 o’r Ddeddf
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi ei gwrdd.
Cymeradwywyd costau un tro o £30,500 i gyflwyno GDMC, ynghyd â
£67,620 o gyllideb refeniw ychwanegol un
tro eleni o’r Gronfa Trawsffurfio.
Hefyd, cadarnhau'r flaenoriaeth gan fyddai’r gweithrediad yn cyfarch
blaenoriaethau pobl Gwynedd a rhagfarnu 'bid' am £75,620 o gyllideb refeniw
parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23.
Awdurdodwyd y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd
â chyflwyno’r GDMC.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Catrin Wager.
PENDERFYNWYD
Cymeradwywyd
cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli cŵn
ledled y sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig a atodir ar y sail eu bod yn
fodlon bydd y prawf o dan adran 59 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol,
Troseddu a Phlismona 2014 wedi ei gwrdd.
Cymeradwywyd
costau un tro o £30,500 i gyflwyno GDMC, ynghyd â £67,620 o
gyllideb refeniw ychwanegol un tro eleni o’r Gronfa
Trawsffurfio. Hefyd, cadarnhau'r flaenoriaeth gan fyddai’r
gweithrediad yn cyfarch blaenoriaethau pobl Gwynedd a rhagfarnu 'bid'
am £75,620
o gyllideb refeniw parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23.
Awdurdodwyd y
Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd â chyflwyno’r GDMC.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi yn ôl ym mis ai y bu i’r Cabinet gytuno i fynd i
ymgynghoriad statudol ar y broseso o gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau
Cyhoeddus mewn perthynas o rheoli cŵn. Eglurwyd bellach fod yr
ymgynghoriad wedi cau ac fod dros 1300 o ymatebion wedi eu derbyn. Diolchwyd i
bob unigolyn a gymerodd amser i ymateb a bod yn rhan o’r ymgynghoriad. Tynnwyd
sylw at y prif sylwadau o’r ymgynghoriad a oedd yn cynnwys 95% o blaid gwahardd
cŵn o lefydd chwarae plant, 93% o blaid gwahardd cŵn o feysydd
chwarae a 99% yn credo y dylai perchnogion lanhau ar ôl i’w ci faeddu mewn
mannau cyhoeddus, a’i waredu mewn ffordd gyfrifol.
Eglurwyd
mai cais i symud ymlaen gyda cyflwyno y GDMC oedd yr adroddiad hwn ond eglurwyd
fod yr adran yn awyddus i fynd gam ymhellach. Amlygwyd fod yr ymgynghoriad wedi
amlygu fod 80% o’r ymatebwyr yn credu fod baw ci yn broblem o fewn eu cymunedau
ac eglurwyd fod hyn yn tystiolaethu beth mae mwyafrif o Gynghorwyd yn clywed ar
lawr gwlad. Pwysleisiwyd yr angen i weithredu felly eglurwyd fod yr adroddiad
yn gofyn am adnoddau ychwanegol i wella arwyddion, darparu mwy o finiau ac i
benodi dau swyddog a fydd yn cael ei cyflogi i fynd i wraidd y broblem.
Eglurwyd fod rhain ym awgrymiadau gan drigolion ac felly fod yr ymgynghoriad
wedi cynorthwyo i lunio’r rhaglen waith.
Nododd y
Rheolwr Gwasanaethau Stryd fod baw ci yn broblem Genedlaethol ac y bydd llawer
o waith yn cael ei wneud ar godi ymwybyddiaeth yn benodol ym mis Hydref.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾
Datganwyd gefnogaeth i’r adroddiad gan amlygu fod y problem wedi cynyddu yn
ystod y cyfnod clo. Amlygwyd fod yr adroddiad yn amlygu 10 cynghorydd a
ymatebodd i’r ymgynghoriad, nodwyd eu bod yn gobeithio fod y niferoedd yn uwch
ond heb glicio’r bocs cynghorydd.
¾
Pwysleisiwyd mai problem perchnogion anghyfrifol ydi hwn ac nid y cŵn
nac y Cyngor ond unigolion sydd ddim yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid.
¾ Holwyd sut mae’r adran am ddal yr unigolion, eglurwyd y bydd y swyddogion yn mynd allan i’r cymunedau tu hwnt i oriau arferol gwaith, pwysleisiwyd yn ogystal bwysigrwydd newid ymddygiad drwy ymgyrchoedd gyda mudiadau megis Cadw Cymru’n Daclus. Eglurwyd y bydd yn anodd ond nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10
Awdur: Steffan Jones