7 GAGENDOR LLES A CHYRHAEDDIAD PDF 415 KB
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad a chofnodi ein diolchiadau i’r gweithlu am eu cyfraniad yn ystod y 18
mis diwethaf.
Cofnod:
Croesawyd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a’i
gyd-swyddogion, swyddogion yr Adran Addysg a Phennaeth Ysgol Cefn Coch ac Ysgol
Talsarnau, Pennaeth Ysgol Botwnnog a Phennaeth Ysgol Pendalar
i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
yn cyflwyno gwybodaeth i’r pwyllgor craffu ar y Gagendor Lles a Chyrhaeddiad,
gan gynnwys:-
·
Effaith
Covid ar addysg yr holl ddisgyblion;
·
Pa
gynlluniau sydd gan ysgolion o ran llesiant yr holl ddisgyblion
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun drwy
nodi:-
·
Er
bod y gagendor lles a chyrhaeddiad wedi gwaethygu efallai yn ystod y pandemig, bod angen cydnabod bod y problemau hyn wedi
bodoli ers rhai blynyddoedd.
·
Bod
presenoldeb swyddogion GwE yn y cyfarfod hwn yn tanlinellu pwysigrwydd gweithio
mewn partneriaeth gyda GwE, a bod hyn yn ein galluogi i ymateb yn bositif i’r
broblem ddyrys yma.
·
Ei
fod yn awyddus i’r pwyllgor gael darlun drwy lygaid gweithwyr rheng flaen, a’i
fod felly’n hynod ddiolchgar bod cynrychiolwyr o’r uwchradd, y cynradd ac
arbennig yn y cyfarfod i rannu eu profiadau.
Ategwyd sylwadau’r Aelod Cabinet gan y
Pennaeth Addysg, a nododd ymhellach:-
·
Bod
cyfnod y pandemig wedi bod yn gyfnod heriol iawn i’r
ysgolion, a bod yr Awdurdod, GwE, yr ysgolion a phartneriaid eraill wedi
cydweithio’n agos iawn er mwyn lleihau’r problemau i’r graddau mwyaf oedd yn
bosib’.
·
Bod
adroddiad Estyn ynghylch i ba raddau roedd yr Awdurdod wedi bod yn llwyddiannus
yn cefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod yma yn adroddiad clodwiw, a’i fod yn
ymwybodol bod Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a’i dîm hefyd wedi derbyn adroddiad yr un
mor ganmoliaethus ar eu gwaith hwy yn ystod y cyfnod hwn, oedd eto’n amlygu’r cydweithio rhyngddynt.
Gosododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y
cyd-destun i’r Strategaeth Adnewyddu a Diwygio, sy’n cefnogi lles a dysgu’r
disgyblion ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar Wynedd.
Yna derbyniwyd cyfres o gyflwyniadau gan
swyddogion GwE, fel a ganlyn:-
·
Cyfarwyddwr
Cynorthwyol (Safonau) – prif benawdau’r Strategaeth (Atodiad 1)
·
Uwch
Arweinydd – Uwchradd – blas o’r gwaith ymgysylltu gyda’r ysgolion i ddal
cynnydd ac effaith y gweithredu sydd wedi bod hyd yma (Atodiad 2)
·
Arweinyddion
Craidd – Cynradd / Uwchradd – diweddariad ar y defnydd a’r effaith o’r Grant
Cyflymu’r Dysgu (Atodiad 4)
Nododd aelod mai un sgil-effaith o’r cyfnod Covid yw’r diffyg cyfleoedd i ddisgyblion ymarfer a siarad
ar lafar gyda’i gilydd, a bod y cyfeiriad yn y papurau at ‘ailgodi’ sgiliau
llafar a thrafod Cymraeg yn tanlinellu bod rhywbeth wedi syrthio. O gofio mai prif bwrpas y Siarter Iaith yw
hybu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg, holwyd beth fyddai rôl y Siarter Iaith yn
y cyfnod hwn wrth geisio cyflymu’r dysgu, a pham nad oedd cyfeiriad penodol at
waith allweddol y Siarter Iaith yn yr adroddiad cyflymu dysgu? Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adroddiad hwn yn
cyfeirio at ffocws y grant yn benodol.
Yn dilyn cyflwyniadau GwE, byddai swyddogion yr Awdurdod yn ymhelaethu
ar y gwaith partneriaethol sydd wedi digwydd rhwng yr
Awdurdod a GwE, a byddai cyflwyniad Swyddog Addysg Uwchradd Gwynedd yn manylu
ar ddylanwad y Siarter Iaith.
Derbyniwyd cyflwyniad gan Swyddog Addysg Uwchradd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7