Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C20/0805/13/LL Tir ger Gwernydd, Bethesda, LL57 3TY pdf eicon PDF 469 KB

Creu maes parcio ar gyfer 30 o gerbydau, creu mynedfa gerbydol newydd, llwybrau troed ynghyd a gosod 2 bae gwefru ceir trydanol a pheiriant talu ac arddangos

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Paul Rowlinson

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;

1.    5 mlynedd

2.    Cydymffurfio a chynlluniau

3.    Darparu CEMP

4.    Darparu Cynllun Tirlunio

5.    Darparu Cynllun Traffig Adeiladu

6.    Materion archeolegol

7.    Cydymffurfio a gofynion awgrymiadau’r Asesiad Amgylcheddol Cychwynnol

8.    Dim goleuo heblaw'r hyn sydd wedi ei gytuno

9.    Triniaeth ffin i’w gwblhau cyn defnyddio’r llecynnau parcio

 

Nodiadau

  • Ordinary Watercourse Consent
  • SUDS
  • Dŵr Cymru

 

Cofnod:

Creu maes parcio ar gyfer 30 o gerbydau, creu mynedfa gerbydol newydd, llwybrau troed ynghyd a gosod 2 bae gwefru ceir trydanol a pheiriant talu ac arddangos

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli gyferbyn ffin datblygu canolfan wasanaeth lleol Bethesda. Nodwyd nad oedd unrhyw bolisi penodol o fewn CDLl yn cyfeirio’n arbennig tuag at ddarparu meysydd parcio o’r newydd ond ystyriwyd bod polisïau PCYFF 2, PCYFF 3, TRA 2 a TRA 4 yn berthnasol i’r achos yma.

 

Eglurwyd mai pwrpas y bwriad yw darparu llecynnau parcio cerbydol ar gyfer cymunedau Gerlan a Gwernydd. Adroddwyd, oherwydd natur adeiledd a strydoedd cul yr ardal breswyl yma, bod diffyg difrifol o lecynnau parcio (preifat a chyhoeddus) oddi ar y rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o hyrwyddo neu arwain at gynnydd defnydd cerbydau preifat, ond yn hytrach yn lleddfu trafferthion parcio presennol y gymuned.

 

Nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi cadarnhau bod y bwriad yn cydymffurfio gyda safonau parcio ac na fyddai’r fynedfa arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch ffyrdd. Ystyriwyd fod lleoliad, maint a gosodiad y safle yn un rhesymegol ac yn dderbyniol ar sail egwyddor, dyluniad, graddfa, deunyddiau, ffurf adeiladu lleol, materion priffyrdd a mwynderau preswyl. Y bwriad felly yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn cefnogi’r cais

·         Bod gwir angen safleoedd parcio ychwaegol yn yr ardal - y strydoedd yn gul a diffyg lle parcio yn achosi pryder i nifer

·         Bod bysus yn cael trafferthion

·         Ei fod yn diolch i’r Cyngor Cymuned (yr ymgeisydd) am gyflwyno’r cais

·         Bod nifer wedi amlygu pryderon yn ymwneud a ymwelwyr i’r Carneddau yn parcio yn yr ardal - hyn yn digwydd beth bynnag

·         Ni fyddai creu'r safle parcio yn ychwanegu at bryderon llifogydd

·         Bydd y wal garreg draddodiadol yn cael ei dymchwel ai hail ddefnyddio

·         Bydd gwrychoedd yn cael eu plannu ar gyfer bywyd gwyllt

·         Croesawu gosod pwyntiau gwefru ceir trydan - hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir

·         Bod angen sicrhau bod y safle yn cael ei reoli yn dda

 

ch)  Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod parcio yn amlwg yn broblem yn yr ardal

·         Pryder y bydd preswylwyr yn gorfod talu am barcio, ond debyg mai mater i’r Cyngor Cymuned yw trafod a rheoli hyn

·         Awgrym bod angen cynnal asesiad dichonoldeb - a fydd trigolion lleol yn fodlon talu neu yn parhau i barcio ar y lon? Os na fydd digon yn talu am y safle parcio a fydd hyn yn cael effaith ar gynllun y Cyngor Cymuned i ad-dalu eu dyled?

 

       PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;

 

1.         5 mlynedd

2.         Cydymffurfio a chynlluniau

3.         Darparu CEMP

4.         Darparu Cynllun Tirlunio

5.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6