7 Cais Rhif C21/0367/39/DT Sandpiper, Lôn Rhoslyn, Abersoch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7BD PDF 317 KB
Estyniadau ac addasiadau
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gwrthod y
cais
Rhesymau:
Gor-ddatblygiad
ac effaith andwyol ar eiddo cyfagos.
Cofnod:
Estyniadau
ac addasiadau
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais
yr Aelod Lleol
a) Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi y byddai’r gwaith yn cynnwys :
·
Codi estyniad ochr deulawr
ar safle modurdy unllawr presennol - bydd yn ymestyn tua’r
dwyrain (ochr) yr un pellter a´r
modurdy presennol ond yn ymestyn
1.4m o flaen y tŷ presennol a 1.8m tua’r cefn ac o’r un uchder a tho’r tŷ presennol. Bydd modurdy, iwitiliti
ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
a llofft ac ystafell ymolchi ar y llawr
cyntaf. Bydd talcenni newydd ar flaen a chefn
y tŷ gyda balconi “Juliette” ar y llawr cyntaf yn
y cefn
·
Codi estyniad deulawr cefn ar ben gorllewinol
yr eiddo gydag ystafell ardd ar y llawr
gwaelod a llofft ar y llawr cyntaf.
Bydd yr estyniad
yn ymestyn 3.7m tua’r cefn ac yn
creu talcen newydd yn wynebu’r
cefn.
·
Bydd gan yr estyniadau deulawr doeau brig o lechi gyda’r to brig newydd ar y blaen a’r
cefn yn is na lefel to’r
prif dŷ.
·
Bwriedir codi porth newydd ar y blaen
ynghyd a tho llechi unllethr ar draws y porth ag estyniad unllawr presennol arall.
Tynnwyd
sylw at y gwrthwynebiadau a
dderbyniwyd a oedd yn awgrymu
nad oedd y dyluniad yn gweddu’r
stryd ac yn orddatblygiad fyddai’n cysgodi eiddo cymdogion.
Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF
3 y CDLL sy'n ymwneud a'r agwedd lleoliad,
dyluniad ac effaith gweledol gan ddatgan
bod disgwyl i bob cynnig arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi
llawn ystyriaeth i gyd-destun yr
amgylchedd adeiledig o gwmpas. Ystyriwyd bod y cynnig yn cwrdd
gyda gofynion polisi PCYFF 3 y CDLl a rhestrwyd y rhesymau yn yr adroddiad.
Yng nghyd-destun gor-edrych a chysgodi eiddo cymdogion, ystyriwyd natur drefol y safle a’r rhyng-welededd
sydd eisoes yn bodoli rhwng
y tai a’r gerddi'n lleol. Ni ystyriwyd y byddai’r estyniadau yn cael niwed
arwyddocaol ychwanegol ar breifatrwydd cymdogion nac y byddai niwed arwyddocaol
ychwanegol i fwynderau cymdogion, na’r ardal yn
gyffredinol, yn deillio o’r datblygiad.
Ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol dan bolisi PCYFF 2 y CDLl.
b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Adeiladwyd Sandpiper yn 1967 fel
cartref gwyliau i'w Daid.
·
Yr eiddo mewn cyflwr enbyd – dim buddsoddiadau diweddar
·
Bod 2 ystafell wely i
fyny'r grisiau ac 1 ystafell wely i
lawr y grisiau gydag ystafell ymolchi; y tŷ yn cael ei
wresogi gan storage
heaters ond heb ei insiwleiddio - hyn yn anaddas
i'r amgylchedd. Angen uwchraddio systemau trydan a dwr yn llwyr
gan eu bod yn beryglus ac anaddas
·
Y bwriad
yw ymestyn uwchben y garej ac allan i’r cefn
i mewn i'r
ardd - yn debyg iawn i
estyniadau eraill yn y stryd. Bydd
hyn yn darparu
4 ystafell wely i fyny'r grisiau
sy'n flaenoriaeth oherwydd nifer plant a Nain sy'n aros yn
rheolaidd
· Mae’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7