11 Cais Rhif C21/0376/34/LL Tir ger Plas Beuno, Clynnog Fawr, Clynnog LL54 5BT PDF 342 KB
Cais ar gyfer codi ty
deulawr gyda modurdy
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Owain Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gwrthod
Cofnod:
Cais ar gyfer codi tŷ deulawr gyda modurdy
a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod safle’r cais o fewn ffin
datblygu pentref Clynnog Fawr ar lecyn o dir gwag wedi ei leoli yn gyfochrog a mynedfa
gerbydol safonol sydd yn arwain at dai preswyl sydd i gefn ac ochr lleoliad y
datblygiad arfaethedig hwn.
Eglurwyd bod cais blaenorol ar gyfer y bwriad wedi ei wrthod o dan
C20/1049/34/LL oherwydd maint, graddfa, dyluniad a’i effaith ar eiddo gerllaw.
Cydnabuwyd fod y bwriad oddeutu 0.5m yn is na’r hyn a wrthodwyd o dan y cais
blaenorol, ac mae asiant y cais wedi darparu cynlluniau ychwanegol sy’n cynnwys
strydlun a chynllun lefelau presennol.
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr
Aelod Lleol
Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor
12.07.2021 er mwyn cywiro cyfeiriad y safle ac ail-ymgynghori er mwyn sicrhau
fod ymgynghorwyr a chymdogion yn ymwybodol o safle’r cais.
Wrth ystyried mwynderau cyffredinol, gweledol a phreswyl, nodwyd bod y safle wedi ei leoli
mewn man gymharol amlwg, yn gyfochrog gyda’r brif ffordd i mewn ac allan o’r
pentref ac wedi ei amgylchynu gan adeiladau o amrywiol faint, dyluniad ac
edrychiadau.
Nid yw swyddogion wedi eu hargyhoeddi yn yr achos yma bod maint a
dyluniad yr adeilad yn addas ar gyfer y
safle. Ystyriwyd fod angen ystyried ei leoliad a’r lefelau tir yn well er mwyn galluogi’r datblygiad i gyfrannu tuag
at gymeriad yr ardal yn ogystal â’i alluogi i integreiddio i batrwm a chymeriad
yr ardal leol mewn modd derbyniol. Ni ystyriwyd fod y dyluniad yn cyfleu hyn ac
felly ni ellid cefnogi’r datblygiad yn y ffurf y’i cyflwynwyd. Ystyriwyd fod y
bwriad yn groes i ofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4 a PS5 o’r CDLl.
Nodwyd bod y bwriad yn osgoi cynnwys ffenestri o ffurf a nifer (ar
yr edrychiad gogleddol) a fyddai’n debygol o amharu ar drigolion yr eiddo
cyfochrog. Er hyn mae’r cynllun yn arddangos y byddai rhai o’r ffenestri wedi
eu cymylu ond ystyriwyd y byddai hyn yn cael effaith gwaeth na’r hyn a
gymeradwywyd yn y gorffennol gan gyfleu teimlad o oredrych
(oherwydd nifer a’u huchder) o safbwynt yr eiddo drws nesaf.
Yn ogystal, adroddwyd bod y safle yn sylweddol uwch na’r eiddo
drws nesaf a byddai’r bwriad o godi eiddo deulawr llawn ar y lefel tir yma yn
achosi nodwedd anghydnaws yn yr ardal ynghyd ac achosi effaith ormesol
sylweddol ar yr eiddo drws nesaf. Ategywd y byddai’r
lefel tir hefyd yn cynyddu’r elfen o oredrych i mewn
i ardd gefn yr eiddo drws nesaf - er bod yr ardd yn weladwy yn bresennol o’r
safle, nid oes defnydd o’r safle ac felly mae unrhyw oredrych
presennol yn achlysurol.
Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol yn nhermau graddfa, dyluniad, lleoliad a lefelau tir/llawr ar gyfer y safle hwn. Yn ogystal, ystyriwyd fod y bwriad yn cael effaith andwyol ar breifatrwydd a mwynderau'r eiddo drws nesaf o ran maint, uchder, lleoliad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11