13 Cais Rhif C19/1089/22/LL Treddafydd Stryd Fawr, Penygroes, Gwynedd, LL54 6PW PDF 467 KB
Cais llawn i
godi 12 annedd-dy gyda mynediad, parcio ac is-adeiledd cysylltiedig
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Judith Humphreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Dirprwyo'r
hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i
gytuno ar lefel y cyfraniad ariannol addysgol ac i gwblhau Cytundeb Adran 106 i
sicrhau’r cyfraniad ariannol tuag at fannau chwarae ac addysg ynghyd ag amod i
ddarparu 2 dŷ fforddiadwy a’r amodau canlynol:-
Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun
strategaeth ddraenio cynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y
Cyngor.
Nodyn:
Hysbysu’r ymgeisydd o ymateb Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Nodyn:
Amrywiol nodiadau Priffyrdd
Cofnod:
Cais
llawn i godi 12 annedd-dy gyda mynediad, parcio ac isadeiledd cysylltiedig
a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer;
·
Darparu 12 tŷ deulawr ar ffurf tai ar wahân, tai pâr a
thai teras gan gynnwys 8 tŷ 3 ystafell wely a 4 tŷ 2 ystafell wely.
·
Creu isadeiledd i gynnwys ffordd stad a llwybrau troed
cysylltiedig, ffensys/rheiliau a waliau cerrig.
·
Darparu llecynnau parcio ar gyfer pob tŷ, man cadw
biniau a chreu gerddi unigol i ochr a chefnau’r tai.
·
Darparu llecynnau amwynder o fewn y safle ynghyd a llecyn ar
gyfer crynhoi dŵr.
·
Diwygiwyd y cais o’i gyflwyniad gwreiddiol yn dilyn sylwadau
gan yr Uned Drafnidiaeth a’r Uned Bwrdeistrefol ynglŷn â materion mynediad
a lleoliad mannau casglu biniau.
Eglurwyd bod
safle’r cais yn bresennol yn wag ond a fu yn y gorffennol yn safle masnachol
prysur fel warws gwerthu nwyddau a chyn hynny, yn safle gyda modurdy trin ceir
a gwerthu petrol. Nodwyd bod y safle, sydd wedi ei leoli o fewn ffin datblygu
Penygroes, yn weddol wastad ac wedi ei
amgylchynu gan dai preswyl.
Atgoffwyd
yr Aelodau y caniatawyd cais llawn yn ddiweddar ym Mhenygroes ar gyfer darparu
24 o unedau preswyl gyda phob un ohonynt yn dai fforddiadwy. Eglurwyd bod y
safle hwnnw wedi ei gynnwys a’i ddynodi yn benodol ar gyfer datblygiad preswyl
ac nid yn safle ar hap fel yn yr achos yma. Ni ystyriwyd fod y caniatâd a’r
niferoedd ynghlwm yn newid y sefyllfa o ran niferoedd tai a adnabuwyd ar gyfer
Penygroes ac nid yw’n effeithio ar y trothwy sydd wedi ei adnabod ar gyfer y
pentref. Nodi’r Polisi TAI 15 o'r CDLl y bydd Cynghorau yn ceisio sicrhau lefel
briodol o dai fforddiadwy yn ardal y Cynllun. Ym Mhenygroes, dau neu fwy o
unedau tai yw'r trothwy gan nodi y dylai 20% o’r unedau fod yn fforddiadwy. Gan
fod y datblygiad arfaethedig yn cynnig 12 uned, mae hyn yn cyd-fynd â'r trothwy
a nodwyd ym Mholisi TAI 15 ar gyfer gwneud cyfraniad at dai fforddiadwy.
Yng
nghyd-destun materion addysgol ac yn unol â gofynion CCA dylid ystyried
sefyllfa'r ysgol sydd yn gwasanaethu’r dalgylch ble lleolir y datblygiad. Mewn
ymateb i’r ymgynghoriad statudol dywed Swyddog Gwybodaeth yr Adran Addysg bod
Ysgol Gynradd Bro Lleu dros ei gapasiti. Yn arferol felly ac yn unol â gofynion
fformiwla berthnasol y CCA, bod cyfiawnhad i ofyn am gyfraniad o £50,480 er
mwyn diwallu’r diffyg capasiti yn yr ysgol gynradd.
Ategwyd, yn unol â Polisi ISA5 o’r CDLL disgwylir i gynigion ar gyfer 10 tŷ neu fwy mewn ardaloedd ble na all llecynnau agored presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig gynnig darpariaeth addas o fannau agored yn unol â safonau meincnod Fields in Trust (FIT). Er bod y bwriad yn cynnwys llecynnau agored, nid ydynt yn cwrdd â’r angen ar gyfer llecynnau gydag offer. Er mwyn cydymffurfio a gofynion polisi ISA 5 o’r CDLl ynghyd a’r CCA: Llecynnau Agored mewn Datblygiadau Tai Newydd, derbyniwyd cadarnhad gan Uned Polisi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13