Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/09/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (eitem 6)

6 NEWID HINSAWDD - STRATEGAETH LLIFOGYDD LLEOL pdf eicon PDF 242 KB

Aelod Cabinet: Cyng. Catrin Wager

 

Diweddariad ar: Gweithredu ar Risgiau Llifogydd Mewndirol a Risgiau Llifogydd Arfordirol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cafwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd yn nodi mai llifogydd yw’r un o’r ffordd fwyaf nodweddiadol sy’n dangos i ni fod Newid Hinsawdd yn effeithio ar gymunedau lleol. Cydnabuwyd bod effeithiau i’w gweld yn barod gyda mwy o dywydd annisgwyl a llifogydd sy’n difrodi cymunedau.

 

Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw'r gwaith atal llifogydd fel y ffordd orau i ddiogelu trigolion yn wyneb heriau Newid Hinsawdd.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y strategaeth yn ddogfen fyw a bod modd ychwanegu ato fel mae datblygiadau yn digwydd. Aethpwyd ati i dywys yr aelodau drwy’r adroddiad gan gynnig eglurhad ar y gwaith sy’n digwydd i adnabod o ble daw’r dŵr mewn achos o lifogydd.

 

Ategwyd bod gwaith ymgysylltu hefyd ar waith ynghyd a thrafodaethau gydag adrannau eraill i sicrhau bod y negeseuon yn cyrraedd y cymunedau.

 

 

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad sy’n creu darlun manwl o’r problemau o fewn y dalgylchoedd. Ategwyd bod broblem yng nghwm Pennant ynghylch eiddo sy’n dioddef o ganlyniad i lifogydd. Awgrymwyd y dylid edrych ar leoliadau sydd o dan fygythiad gan fod posibilrwydd y byddant yn dioddef yn y dyfodol.

-        Holwyd aelod os oedd rhestr risg er mwyn ymdrin â phroblemau, fel bod modd mapio'r rhain i ragweld lle mae’r peryglon o ddifrod.

-        Mynegwyd pryder bod llifogydd yn digwydd i raddau o ganlyniad i ddiffyg cynnal a chadw mewn afonydd a nentydd, awgrymwyd y dylid edrych ar ffyrdd cyfoes o adeiladu er mwyn gwarchod eiddo rhag llifogydd yn y dyfodol.

-        Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y trosiant staff o fewn adrannau’r Cyngor yn ddiweddar, a bod cyfoeth o wybodaeth leol yn cael ei golli wrth i staff adael eu swyddi.

-        Eglurwyd bod bylchau o wybodaeth ar fapiau a defnyddiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru gan nad yw bob cwrs dwr i’w gweld arnynt.

-        Ategwyd pwysigrwydd bod Cynghorwyr yn rhan o unrhyw drafodaethau gan fod problemau llifogydd mewn nifer o wardiau.

-        Holwyd pwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod y clawdd yn ddiogel yn Nhalsarnau fel na fydd peryg i’r gymuned leol o ganlyniad i’r difrod.

 

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, nododd  Pennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd y canlynol:-

 

-        Eglurwyd bod angen ysgogi pobl i ddatgelu os yw eu heiddo yn dioddef o ganlyniad i lifogydd fel bod modd creu rhestr, ategwyd bod nifer yn gwrthod oherwydd pryder am werth eu tai.

-        Cytunwyd bod angen edrych ar ffyrdd i addasu adeiladu tai ar gyfer y dyfodol fel modd o’u hamddiffyn rhag llifogydd.

-        Cydymdeimlwyd a phryderon yr aelod bod gwybodaeth leol yn cael ei golli wrth i staff adael, fodd bynnag sicrhawyd bod berthynas gwaith rhwng y Cyngor a sefydliadau eraill yn gwella  gyda phawb yn rhannu’r un wybodaeth.

-        Nodwyd bod cynllun i addysgu pobl ar ddulliau i leihau risg llifogydd yn eu heiddo ac o fewn y gymuned fel gwaith ataliol.

-        Nodwyd mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am y clawdd a chytunwyd i drefnu sgwrs rhyngddynt ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6