9 STRATEGAETH RHANBARTHOL - ADNEWYDDU A DIWYGIO: CEFNOGI LLES A CHYNNYDD Y DYSGWYR PDF 282 KB
Cyflwyno gwybodaeth, ac i
aelodau'r Cyd-bwyllgor gymeradwyo ein 'Strategaeth ranbarthol - Adnewyddu a
diwygio: cefnogi lles a chynnydd dysgwyr'.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn
a chymeradwyo'r Strategaeth Ranbarthol.
Cofnod:
TRAFODAETH:
Cyflwynwyd yr adroddiad i
aelodau’r Cydbwyllgor ar gyfeiriad strategol GwE dros y cyfnod nesaf yn sgil heriau’r
pandemig Covid-19.
Cyfeiriwyd at y strategaeth
ranbarthol a nodwyd bod themâu wedi eu hadnabod er mwyn sicrhau darpariaeth
safon uchel i ddysgwyr.
Cyfeiriwyd at y gwaith
arloesol sydd wedi bod wrth i staff ail bwrpasu a’r newidiadau a fuodd yn sgil
hyn.
Trafodwyd sut mae rôl
Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant wedi esblygu er mwyn cwrdd â’r gwahanol ofynion
o fewn yr ysgolion. Cyfeiriwyd at y broses o arfarnu’n fewnol fel bod ysgolion
yn medru rhoi ffocws ar wella o fewn yr ysgol.