Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/09/2021 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 9)

9 STRATEGAETH RHANBARTHOL - ADNEWYDDU A DIWYGIO: CEFNOGI LLES A CHYNNYDD Y DYSGWYR pdf eicon PDF 282 KB

Cyflwyno gwybodaeth, ac i aelodau'r Cyd-bwyllgor gymeradwyo ein 'Strategaeth ranbarthol - Adnewyddu a diwygio: cefnogi lles a chynnydd dysgwyr'. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo'r Strategaeth Ranbarthol.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i aelodau’r Cydbwyllgor ar gyfeiriad strategol GwE dros y cyfnod nesaf yn sgil heriau’r pandemig Covid-19.

 

Cyfeiriwyd at y strategaeth ranbarthol a nodwyd bod themâu wedi eu hadnabod er mwyn sicrhau darpariaeth safon uchel i ddysgwyr.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith arloesol sydd wedi bod wrth i staff ail bwrpasu a’r newidiadau a fuodd yn sgil hyn.

 

Trafodwyd sut mae rôl Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant wedi esblygu er mwyn cwrdd â’r gwahanol ofynion o fewn yr ysgolion. Cyfeiriwyd at y broses o arfarnu’n fewnol fel bod ysgolion yn medru rhoi ffocws ar wella o fewn yr ysgol.