Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 04/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 6)

6 Cais Rhif C19/1215/40/EIA Parc Gwyliau Hafan y Mor, Pwllheli, LL53 6HX pdf eicon PDF 745 KB

Prif gynllun arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio, mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig)

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle (yn ddarostyngedig i gynnal asesiad risg fyddai’n ystyried priodoldeb a mesurau diogelwch yng nghyd-destun canllawiau covid 19)

 

Cofnod:

Prif gynllun arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio, mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig)

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais. Rhannwyd y datblygiad yn barseli:

·      Parsel B - Lleoli 27 o garafanau sefydlog.

·      Parsel E - Lleoli 3 carafan sefydlog a codi dau adeilad deulawr i ddarparu llety i staff.

·      Parsel F - Dymchwel 4 bloc rhandai (56 rhandy / 272 gofod i ymwelwyr) a lleoli 26 o garafanau sefydlog.

·      Parsel G - Lleoli 80 o garafanau sefydlog.

·      Parsel H - Ailddatblygu cyn safle gwaith trin carthion a chodi caffi unllawr gyda theras yn y blaen a maes parcio

·      Parsel I - Lleoli 18 o garafanau sefydlog.

·      Parsel J - Gwaith amddiffyn yr arfordir sy'n cynnwys gwaith ar 320m o'r arfordir. Mae’r bwriad yn golygu ail-linio'r arfordir i gyfeiriad y tir i greu traethau tywod a graean rhwng pedwar morglawdd cerrig amddiffyn ar siâp cynffon pysgodyn.  Bydd oddeutu 120m o'r gwaith yn cymryd lle yr amddiffynfeydd carreg llinellol presennol. Bydd Llwybr Arfordir Cymru hefyd yn cael ei ail-alinio.

 

Oherwydd maint y safle, diffinwyd y cais fel ‘datblygiad mawr’ ac o ystyried bod sawl elfen i’r cynllun aseswyd pob un ar wahân.

 

Adeiladu Caffi un-llawr newydd ar ffin ddwyreiniol y safle fyddai’n cynnwys gofod parcio ceir, tirlunio a gwaith plannu.

 

O ystyried bod y safle ar dir a oedd yn ffurfio rhan o'r cyn safle trin carthion, ystyriwyd bod hwn yn dir a ddatblygwyd o'r blaen gyda’r defnydd hefyd yn briodol yng nghyd-destun defnydd y safle ehangach fel parc gwyliau. Er bod adeiladau mwy wedi'u lleoli tuag at ganol y parc gwyliau, mae'r strwythurau sydd i'w gweld ar hyd y morlin yn bennaf yn siales a charafanau un-llawr.  Amlygwyd bod y cynllun gwreiddiol yn cynnwys adeilad caffi deulawr. Yn dilyn cynnal trafodaethau gyda swyddogion, cytunwyd i’r  adeilad fod yn un-llawr  a  bod gyda gostyngiad yn raddfa a chymeriad yr adeilad bellach yn briodol ar gyfer ei leoliad arfordirol. Ystyriwyd bod y dyluniad yn un o ansawdd uchel o ran ei ddyluniad, gosodiad ac ymddangosiad ac y byddai yn ymestyn yr amrediad o gyfleusterau yn ardal y cynllun. Cefnogwyd y bwriad gan Ddatganiad Economaidd oedd yn amlygu y byddai’r cynllun yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth leol.

 

Adroddwyd bod modd cael mynediad at y safle gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus, beicio a cherdded gyda’r safle wedi'i leoli union gyferbyn â'r llwybr Arfordir  -  nodwyd bod y datganiad cefnogi cynllunio yn cadarnhau bod y Caffi ar gael i ddefnyddwyr y Llwybr Arfordir. Ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio â gofynion polisi MAN 1, MAN 6 a TWR 1 a bod yr egwyddor o adeiladu caffi yn dderbyniol.

 

Gwaith Amddiffyn i 320m o'r morlin, gan gynnwys ail-alinio'r tir ar y traethlin, gosod pedwar morglawdd 'rock-armour' mewn siâp cynffon pysgodyn a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6