6 YR ECONOMI A CHEFNOGAETH I FUSNESAU PDF 120 KB
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd
Gareth Thomas
Ystyried adroddiad ar yr uchod.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad gan edrych ymlaen at gael mwy o wybodaeth ynglŷn â grantiau i
fusnesau maes o law.
Cofnod:
Croesawyd swyddogion yr Adran Economi a Chymuned
i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Economi a Chymuned, ar gais y pwyllgor craffu, yn amlinellu pa gefnogaeth mae’r
Cyngor yn ei roi i fusnesau, yn arbennig yn sgil y Deyrnas Unedig yn gadael yr
Undeb Ewropeaidd a’r pandemig Covid-19.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Nododd aelod, o ran cywirdeb, y dylai’r
adroddiad gyfeirio at y Deyrnas Gyfunol, yn hytrach na’r Deyrnas Unedig.
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau,
nodwyd:-
·
Bod
y cynnydd yn nifer yr ymholiadau a cheisiadau am gymorth gan fusnesau dros y 18
mis diwethaf wedi cyflwyno heriau i’r gwasanaeth o ran adnoddau ac o ran
ail-gyfeirio a blaenoriaethu’r gwaith.
Hefyd, roedd y gwasanaeth wedi ail-flaenoriaethu mwy tuag at gefnogi a
chynnal busnesau i barhau, yn hytrach na datblygu a chreu swyddi o’r newydd,
fel yn y gorffennol. Roedd mwy o
fusnesau wedi dod i gyswllt â’r Cyngor yn ystod cyfnod y pandemig
nag erioed o’r blaen, ac un o’r pethau cadarnhaol a ddeilliodd o hynny oedd
sefydlu’r bwletin busnes, oedd bellach yn mynd allan o leiaf ddwywaith yr
wythnos i dros 4,500 o fusnesau’r sir.
Roedd y gwasanaeth hefyd wedi symud tuag at roi cyngor ynglŷn â
materion ychydig ehangach o ran arferion da a sut i fabwysiadu technoleg
newydd. Roedd yn rhaid rhoi ymdrech i
mewn i’r gwaith o gynnal a sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei dosbarthu, ac
roedd y gwasanaeth yn ail-drefnu eu hunain hefyd, gan chwilio am adnoddau trwy law’r Cyngor i’w galluogi i barhau gyda’r gwaith.
·
Na
chafwyd sgwrs benodol gyda’r Adran Tai ac Eiddo yn y cyfnod yma o ran
cynorthwyo gweithwyr allweddol, ac ati, sy’n symud i mewn i’r ardal i ddod o
hyd i rywle i fyw. Roedd trafodaethau’n
mynd ymlaen gyda’r Adran o ran polisïau cynllunio, ac ati, ond roedd angen
gwneud mwy o waith ar hynny. Eglurwyd
nad prinder sgiliau oedd y brif gŵyn gan fusnesau ar hyn o bryd, ond
prinder pobl i weithio i’r busnesau hynny, ac roedd hynny’n wir ar draws y
sectorau. Cyfeiriwyd at ddarn o waith i
geisio cefnogi pobl nad ydynt mewn gwaith i mewn i swyddi mewn meysydd lle mae
bylchau, ond roedd graddfa’r broblem yn llawer ehangach nag a fu, a byddai’n
rhaid edrych ar hyn yn ehangach gyda phartneriaid eraill, er mwyn cwrdd â lefel
y galw presennol. Nodwyd ymhellach bod
dros 120 o bobl wedi cael cymorth drwy’r Tîm Gwaith Gwynedd, ac er nad oedd hyn
yn cyfarch y galw yn ei gyfanrwydd, roedd yna weithgaredd sylweddol wedi
digwydd. Hefyd, fe geisiwyd cymryd
rhywfaint o gamau bychan, ond ymarferol, i gefnogi busnesau, e.e. drwy hwyluso
cael tudalennau ar Facebook, fel bod modd i fusnesau hyrwyddo’r cyfleoedd
gwaith sydd ganddynt.
· Bod cyhoeddiad Llywodraeth Prydain ar y trefniadau grant i’r dyfodol, yn sgil diflaniad arian Ewropeaidd, wedi ei wthio nôl, ond roedd yn debygol y byddai yna ryw fath o gyhoeddiad yn dilyn yr adolygiad ariannol fis nesaf. Eglurwyd mai’r bwriad oedd cyhoeddi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6