Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 25/11/2021 - Pwyllgor Craffu Gofal (eitem 5)

5 STRATEGAETH AWTISTIAETH pdf eicon PDF 246 KB

I ddarparu trosolwg o’r Cynllun Awtistiaeth 2021-23 o fewn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad oedd yn darparu trosolwg o’r Cynllun Awtistiaeth 2021-23.

b)    Anfon gohebiaeth at aelodau’r Cabinet yn argymell iddynt gefnogi a chymeradwyo’r Cynllun a’r bid am arian parhaol yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd, 2021 gan nodi prif sylwadau’r Pwyllgor Craffu Gofal.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad ar y Cynllun Awtistiaeth 2021-23 gan yr Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet ar gynnwys yr adroddiad gan nodi fod y Cynllun hwn yn un o brosiectau blaenoriaeth gwella'r Cyngor, sef i sicrhau fod Plant a Theuluoedd gydag awtistiaeth yn cael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i ffynnu.

 

 

Ychwanegwyd fod y gwaith ar y Cynllun wedi parhau dros y cyfnod anodd diweddar a chymerwyd y cyfle i ddiolch i Swyddogion y Cyngor am eu gwaith yn ogystal â’r partneriaethau eraill gan gynnwys y Bwrdd Iechyd. Nodwyd fod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod pwysigrwydd y Cynllun hwn yng nghanol y prysurdeb diweddar ac wedi chwarae rhan allweddol er mwyn dod a’r Cynllun at ei gilydd.

 

Adroddwyd fod y Strategaeth yn arloesol, cadarnhawyd hyn gan yr Ymgynghorydd arbenigol oedd wedi nodi fod yr hyn mae Gwynedd a’r partneriaid yn ei wneud yn flaengar ac yn arwain y ffordd i eraill. Cydnabyddwyd gan yr Uwch Reolwr Gweithredol fod gwaith yr Uwch Reolwyr Anableddau Dysgu o fewn yr Adran Oedolion yn hanfodol gan fod awtistiaeth yn pontio drosodd i’r Adran hon yn ogystal â’r Adran Plant.

 

Crynhowyd drwy nodi fod dymuniad i’r Strategaeth hon fod yn Strategaeth fyw a all esblygu yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth ac fe adolygir y strategaeth yn gyson. Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Croesawyd y Cynllun Awtistiaeth 2021-23 gan yr Aelodau. Nodwyd mai edrych ymlaen at ddyfodol y Cynllun sy’n bwysig rŵan.

·         Awgrymwyd y dylid ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaeth awtistiaeth a’u teuluoedd am y Cynllun yn ogystal â derbyn adborth cyson ganddynt am y gwasanaeth.

·         Cwestiynwyd beth fydd rôl yr Adran Addysg yn y Strategaeth gan fod hyn heb ei amlygu yn y Cynllun a holwyd beth fydd lefel ymyrraeth yr Adran Addysg. Credwyd y dylid sicrhau bod y cydweithio efo’r Adran Addysg yn cael ei amlygu yn y Cynllun.

·         Mynegwyd fod llawer o rieni yn bryderus am yr amser mae’n ei gymryd i blant gael ei hadnabod efo’r cyflwr ac yr amser aros am asesiad. Holwyd os oes modd gwneud unrhyw beth i wella hyn.

·         Roedd dymuniad i dderbyn sesiwn gwybodaeth i Gynghorwyr er mwyn gwella dealltwriaeth o’r maes. Ategwyd y dylai’r hyfforddiant hwn gael ei gynnal cyn mis Ebrill 2022.

·         Ychwanegwyd y dylid sicrhau bod hyfforddiant addas ar gael i bawb gan gynnwys staff y Cyngor er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o dueddiadau e.e. bod merched yn medru cuddio’r cyflwr yn well na dynion.

·         Ategwyd pwysigrwydd i bob aelod o staff Ysgolion dderbyn hyfforddiant er mwyn adnabod y cyflwr yn fuan. Cydnabyddodd yr Uwch Reolwr Gweithredol fod hyn yn bwynt pwysig fydd yn derbyn sylw priodol.

·         Holwyd os yw nifer y sawl sydd efo’r cyflwr yn cynyddu. Mynegwyd hefyd y byddai wedi bod yn ddefnyddiol gweld rhagor o fewnbwn gan deuluoedd yn ystod yr ymgynghoriad. Awgrymwyd y dylid derbyn adborth cyson gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd er mwyn adolygu os yw’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5