Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 10/01/2022 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 11)

11 Cais Rhif C21/1010/32/LL Caerau, Llangwnnadl, Pwllheli, LL53 8NS pdf eicon PDF 421 KB

Trosi adeilad allanol i ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa gerbydol presennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i dderbyn adroddiad pellach am fforddiadwyedd y tŷ

Cofnod:

Trosi adeilad allanol i ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa gerbydol bresennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig.

 

a)            Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu  mai cais ydoedd ar gyfer trosi adeilad allanol presennol (a fu gynt yn dŷ annedd) yn dŷ fforddiadwy gyda dwy lofft, ystafell fyw ac ystafell fwyta / cegin ynghyd a chreu gardd gerllaw'r adeilad. Eglurwyd bod  bwriad cadw prif strwythur yr adeilad ond dymchwel waliau adeiladau allanol cysylltiedig â chodi estyniadau unllawr ar ochr a chefn y prif strwythur. Adroddwyd bod y safle mewn ardal wledig (ymhell o unrhyw ffin ddatblygu a'i diffinnir gan CDLl) , o fewn Ardal Tirwedd Arbennig a thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli ac yn rhannol o fewn Safle Bywyd Gwyllt Rhanbarthol Caerau.

 

Cyflwynwyd y cais gerbron y pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Ymhelaethodd y swyddog bod y safle tu allan i unrhyw ffin ddatblygu a'i hadnabyddir dan bolisi PCYFF 1 y CDLl lle nodi’r, y tu allan i ffiniau datblygu bydd cynigion yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn unol â pholisi penodol yn y Cynllun. Yn yr achos yma, er i’r cais fod am drosi adeilad allanol presennol, bod amheuaeth os gellid ystyried y strwythur hwn fel "adeilad" yn hytrach nag adfail cyn eiddo anheddol.

 

Amlygwyd bod adroddiad strwythurol wedi ei gyflwyno gyda'r cais yn honni i'r waliau presennol fod yn strwythurol gadarn ac yn addas i'w cadw heb yr angen am ail-adeiladu sylweddol, ac yn ogystal, na fyddai angen ail-godi mwy na 10% o gyfanswm arwynebedd y waliau gwreiddiol. Wrth asesu’r adroddiad, adroddwyd bod cryn amheuaeth yn parhau ynglŷn âg addasrwydd strwythur yr adeilad i'w drosi neu a fyddai'r gwaith fyddai ynghlwm a'r datblygiad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn-gwlad yn groes i ofynion polisi PCYFF 1 y CDLl.

 

Ar sail yr asesiad, hyd yn oed pe derbynnir bod yr adeilad traddodiadol yng nghefn gwlad yn addas i'w drosi yn dŷ annedd, ni ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gydag un o'r meini prawf penodol ar gyfer datblygiadau o'r fath a restrir ym mholisi TAI 7 CDLl Er yn cydnabod bod yr ymgeisydd mewn angen tŷ fforddiadwy a bod dyluniad cyffredinol yr adeilad o ansawdd safonol, oherwydd y lleoliad gweledig, natur anghyfannedd y safle presennol a’r nifer newidiadau a fwriedir eu gwneud i'r strwythur, nid oedd dewis ond argymell gwrthod y cais.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Ei bod eisiau parhau i fyw yn Llangwnnadl ond bod prisiau tai lleol a chyfagos yn rhy bell o’i gafael.

·         Nad oedd tŷ fforddiadwy yn ei milltir sgwâr ac felly’r opsiynau yn gyfyngedig.

·         Yn lwcus iawn bod gan ei rhieni dir gyda hen dŷ arno fyddai’n rhoi cyfle i aros yn lleol gan fagu teulu, parhau i weithio yn ei swydd a pharhau i helpu ei rhieni ar y fferm a’i Nain gyda’r maes carafanau.

·         Bod yr hen dŷ wedi bod yn gartref i nifer o deuluoedd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11