Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 10/01/2022 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 12)

12 Cais Rhif C21/0859/42/DT Môn Arfon, Lôn Pen Rhos, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BL pdf eicon PDF 323 KB

Dymchwel garej presennol ac adeiladu garej newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

Rhesymau - gorddatblygiad

 

Cofnod:

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel modurdy presennol a chodi modurdy newydd yn ei le.

.

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu gyfredol Morfa Nefyn ac o  fewn ardal breswyl sydd yn gymysg o ran math a ffurf.  Ategwyd bod y  safle a’r ardal oddi amgylch wedi ei leoli oddi fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor ar gais yr aelod lleol ar sail gôr ddatblygiad o’r safle.

 

Cydnabuwyd bod pryderon wedi eu hamlygu gan gymydog, yr aelod lleol a’r Cyngor Cymuned ynglŷn â’r bwriad, ac yn benodol am ddefnydd yr adeilad i’r dyfodol. Eglurwyd na ellid rhagweld yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, ond bod rhaid ystyried yr hyn sydd gerbron, sef cais i ddymchwel modurdy presennol a chodi modurdy newydd yn ei le. Nodwyd fod gofod to'r adeilad newydd i’w ddefnyddio fel swyddfa, ond nad oedd unrhyw awgrymiad y byddai defnydd gwahanol i’r hyn a gyflwynwyd. Er hynny, ystyriwyd y byddai’n rhesymol cynnwys amod i sicrhau na ddefnyddir yr adeilad ar gyfer unrhyw reswm nad yw yn ddefnydd atodol i’r tŷ gan gynnwys ei osod fel uned gwyliau.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol gan gyflwyno fideo yn egluro’r rhesymeg y tu ôl i’r cais cynllunio ar gyfer adnewyddu’r adeilad allanol yn eu gardd

·         Eu bod wedi byw yn y tŷ ers 2016 a chyn hynny yn berchen Bodfan gerllaw

·         Y teulu wedi bod yn yr ardal ers y 1960au - ei  Nain a’i Daid a’i rieni yn berchen eiddo yn yr ardal ac felly wedi ymrwymo’n fawr i’r ardal – nid ydynt yn bwriadu gwerthu unrhyw eiddo, sy’n destun trafod y dyddiau hyn

·         Bod yr adeilad mewn cyflwr gwael ac angen gosod rhywbeth yn ei le sy'n ddiogel, yn fwy modern ac yn addas i'r pwrpas.

·         Bod bwriad i’w ddefnyddio ar gyfer storio cychod a thractorau

·         Y to yn sigo sy’n awgrymu bod y distiau yn rhoi. Ystyriwyd bod y distiau yn wreiddiol [o'r adeg y codwyd yr adeilad dros 100 mlynedd yn ôl]. Y landeri bellach wedi disgyn a holltau yn y waliau i gyd.

·         Yn ddiolchgar pe byddai’r Pwyllgor yn edrych yn ffafriol ar y cais.

 

c)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol:

·         Bod gofod yn y to yn cael ei addasu yn swyddfa

·         Trigolion lleol a Chyngor Tref yn gwrthwynebu ar sail gorddatblygiad - bod y bwriad yn sylweddol fwy na’r un presennol

·         Bod 6 tŷ yn ffinio gyda’r safle

·         Y tŷ hefyd wedi ei ymestyn yn ddiweddar

·         Digon o le parcio heb fod angen modurdy mwy

·         Bod Morfa Nefyn yn prysur droi yn bentref tai gwyliau - Môn Arfon yn dŷ haf - defnydd busnes fydd i’r modurdy i’r dyfodol.

·         Nad yw amod berthnasol yn ddigon clir i rwystro addasiad i’r dyfodol - angen cryfhau'r amod fel ei fod yn llai amwys

 

Mewn ymateb  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12