13 Cais Rhif C21/0988/39/LL Maes Carafanau Ty Newydd, Sarn Bach, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7LE PDF 324 KB
Ymestyn tymor
gwyliau o 8 mis i 10.5 mis i bwrpas gwyliau
AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
Nodyn - Swyddog
Trwyddedu
Cofnod:
Ymestyn tymor gwyliau o 8 mis i 10.5 mis i bwrpas
gwyliau
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu mai cais llawn ydoedd i ymestyn
y cyfnod y gellid defnyddio'r unedau ar safle carafanau sefydlog presennol o 8
mis (rhwng y 1af o Fawrth hyd y 31ain o Hydref) i 10.5 mis (rhwng y 1af o
Fawrth hyd y 15fed o Ionawr y flwyddyn ganlynol). Byddai’r bwriad yn cynyddu’r
cyfnod meddiannu am 3.5 mis yn y flwyddyn yn unig ac nad oedd bwriad ychwanegu at y nifer presennol o garafanau
sefydlog megis 32. Ni fydd ychwaith newidiadau nac ychwanegiadau i’r
cyfleusterau presennol sydd ar y safle. Fel rhan o’r cais cyflwynwyd Datganiad
Dyluniad a Mynediad yn egluro cefndir i’r cais gan nodi bod cynnydd sylweddol
wedi bod yn y galw am wyliau dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Nodwyd hefyd
bod y safle yn un parhaol sydd wedi ei
sefydlu ers cyfnod hir gydag unedau o ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer defnydd
gaeaf.
Daw’r cais hwn gerbron y Pwyllgor yn
unol â’r cynllun dirprwyo gan i arwynebedd y safle fod yn fwy na 0.5ha.
Ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa bresennol
parthed ardrawiad y carafanau sefydlog ar yr amgylchedd, gan eu bod eisoes wedi
eu gosod ar y safle trwy’r flwyddyn ac nid oedd bwriad ymestyn eu niferoedd.
Gan na fydd unrhyw newid i fwynderau gweledol yr AHNE ystyriwyd y bwriad yn
dderbyniol ar sail gofynion Polisi AMG 1 y CDLL. Ystyriwyd hefyd bod diwygio'r
cyfnod meddiannaeth yn dderbyniol dan bolisïau’r Awdurdod Cynllunio Lleol drwy
osod amodau priodol er gosod cyfnod y tymor newydd a sicrhau y defnyddir y
carafanau sefydlog ar gyfer defnydd gwyliau yn unig gyda chofrestr gyflawn o
holl ddefnyddwyr yr unedau yn cael ei gadw.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol
·
Bod y cais yn cael ei gyflwyno oherwydd i berchnogion y carafanau
wneud cais i’r ymgeisydd i gael mynychu eu carafanau tu allan i’r tymor
·
Bod y cais yn un teg
·
Bod y carafanau o ansawdd ac yn addas
ar gyfer pob tywydd
·
Bod y maes mewn cyflwr da, yn drefnus
ac yn lan
·
Bod polisïau yn cefnogi mewnbwn ymwelwyr dros y gaeaf - creu gwaith yn lleol
·
Ei fod yn gefnogol i’r cais
c)
Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod angen cadw cofrestr
·
Bod hawl gan y perchennog i fod yn
agored am 12 mis
PENDERFYNWYD:
Caniatáu gydag amodau
1.
Cyfyngu ar y defnydd o'r safle i'r cyfnod rhwng y 1af o Fawrth hyd y
15fed o Ionawr y flwyddyn ganlynol
2.
Defnydd gwyliau yn unig a rhaid cadw cofrestr o’r holl ddefnyddwyr.
3.
Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn
ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.
Nodyn -
Swyddog Trwyddedu