AELOD
CABINET: Y CYNGHORYDD CATRIN WAGER
I ystyried yr adroddiad.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol a thywyswyd yr aelodau drwy’r prif faterion.
Nodwyd bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau nad
oes sbwriel ar briffyrdd a mannau cyhoeddus eraill.. ‘Roedd yn wasanaeth
gweladwy a phwysig yn enwedig yn ystod y cyfnod pandemig. Eglurwyd bod y
Gwasanaethau Stryd yn ymdrin â bob safle cyhoeddus a pob ffordd oedd wedi ei
fabwysiadu a reolir gan y Cyngor
Amlygwyd bod ardaloedd wedi eu rhannu yn barthau yn ôl eu
defnydd. Eglurwyd bod glendid ardal yn cael ei asesu trwy gymharu gyda safon,
roedd amrediad safon o Gradd A i D. Ymhelaethwyd y caniateir cyfnod amser
gwahanol i lanhau'r ardaloedd a'u dychwelyd i'r safon briodol..
Nodwyd bod yr Adran wedi wynebu toriadau yn y gorffennol, a phwysau
ychwanegol
yn sgil cynnydd yn nhwristiaeth. Manylwyd ar weledigaeth y Gwasanaeth gan
ofyn i’r Pwyllgor am eu sylwadau ar y weledigaeth.
Ategodd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd sylwadau’r Pennaeth
gyda’r pwyntiau canlynol:
·
Cyfeiriodd at y cod ymarfer a nododd
oherwydd sefyllfa Covid ni fyddai un newydd yn cael
ei gyflwyno o fewn y flwyddyn. Nododd bod deddfwriaeth yn Lloegr i gosbi
perchnogion ceir sy’n gollwng sbwriel, nid oedd hyn ar gael yng Nghymru ond yn
cael ei hystyried.
·
Nododd fel rhan o’r peilot, bod 4 bin
clyfar wedi eu harchebu a fyddai’n gweithio drwy bŵer solar. Byddai’r bin
yn gwasgu’r sbwriel nifer o weithiau cyn anfon signal i hysbysu’r swyddogion
bod angen ei wagio.
Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y prif sylwadau canlynol gan
aelodau:
·
Croesawyd y weledigaeth a holwyd am
finiau ailgylchu ar strydoedd. Nododd bod pobl yn rhoi sbwriel yn y bin
anghywir ar ddamwain neu yn ddiofal a gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y broses
casglu a’r gofynion staffio i wahanu a sortio’r deunydd.
·
Holwyd ynghylch grwpiau codi sbwriel yn
wirfoddol gan nodi bod digwyddiadau cyson ar draws y wlad ac yng Ngwynedd a’i
fod yn syniad da bod y cyhoedd yn rhan o’r broses.
·
Holwyd beth yw’r drefn efo ysgubo
ffyrdd ag a yw hyn yn parhau mewn llefydd gwledig. Ategodd bod cadw ffyrdd yn
lan yn ddull o osgoi llifogydd.
·
Codwyd y mater o chwyn ar balmentydd yn
enwedig rhai sy’n cael eu defnyddio yn llai aml.
·
Cyfeiriwyd at y Tîm Cymunedau Glan a
Thaclus a’r angen i wybyddu aelodau o waith y tîm.
·
Derbynnir cwynion o ran arwyddion yn
wyrdd a gydag ymgyrchoedd codi ysbwriel yn ail-gychwyn roedd bagiau duon yn
cael eu rhoi tu ôl i finiau stryd. A ellir ystyried ysgubo’r llwybrau beicio yn
dilyn torri tyfiant? Holwyd am drefniadau glanhau gwm cnoi.
·
Yn falch bod addysgu plant wedi ei
gynnwys fel un o’r camau nesaf ond gall oedolion greu mwy o broblem e.e. peidio
â chodi baw cŵn. Wedi gweld cyd-gynghorwyr yn arddangos cynhwysydd siâp
asgwrn i ddal bagiau baw cŵn ar y cyfryngau cymdeithasol. Oedd rhai ar
gael i aelodau eraill.
· Bod staff yn ymwybodol o fannau problemus, dylid parhau i wagio biniau yn rheolaidd yn hytrach na ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6