7 TORRI GWAIR A CHYNNAL TIROEDD PDF 123 KB
AELOD
CABINET: Y CYNGHORYDD CATRIN WAGER
I ystyried yr adroddiad.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Bennaeth yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, gosododd y cefndir
a’r cyd-destun. Nododd er mwyn cyflawni dyletswyddau bod angen paratoi a
mabwysiadu polisi torri gwair ar gyfer ymylon ffyrdd, oedd yn ystyried
anghenion defnyddwyr y ffordd, yn ogystal ag anghenion bywyd gwyllt. Cyfeiriodd
at yr adolygiad o drefniadau torri gwair a’r gyfundrefn cynnal arfaethedig a
oedd gerbron er trafodaeth.
Manylodd Pennaeth
Cynorthwyol Priffyrdd a Bwrdeistrefol ar rai o’r camau a oedd yn cael eu
cymryd. Nododd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r Uwch Swyddog Bioamrywiaeth ac
yn adnabod mannau penodol o ran casglu’r gwair yn dilyn ei dorri. Cyfeiriodd at
brosiect ‘ymylon gwell’ gyda’r elusen Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, a oedd
i’w gynnal ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Nododd bod Plantlife wedi cyhoeddi dogfen
yng nghyswllt ymylon ffyrdd cefn gwlad a oedd wedi derbyn sêl bendith
Llywodraeth Cymru.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod rhai
yn gefnogol i newid trefniadau torri gwair i wella bioamrywiaeth, ond doedd
eraill ddim yn gefnogol.
·
Yn
derbyn cwynion o ran coed yn ymwthio i’r ffyrdd, a ellir addasu uchder torri
mewn rhai achosion? Bod angen cael balans rhwng hybu
bioamrywiaeth a diogelwch ffyrdd. Efallai byddai’n opsiwn i dorri un ochr mewn
rhai mannau. Yn gefnogol i doriad llawn diwedd Hydref i ddelio gyda gordyfiant
prysgwydd ond o’r farn bod torri gwair ym mis Awst mewn ardaloedd gwledig yn
rhy hwyr.
·
Bod
angen torri mewn ardaloedd 30mya. Roedd ardaloedd yn fwy taclus pan gesglir y
gwair a dorrwyd. Beth oedd yr ystyriaethau wrth ddod i gasgliad o ran casglu’r
gwair yn dilyn ei dorri? Byddai toriad ym mis Awst yn rhy hwyr yn ei ardal –
fyddai’n bosib cael rota o ran pa ardaloedd oedd yn
cael toriad gyntaf?
·
Yn sicr
roedd lonydd cul angen sylw. Ei fod yn bwysig i fioamrywiaeth bod rhai mannau
yn cael eu gadael. Dylai’r Cyngor dynnu lluniau pan fo blodau gwyllt yn eu
hanterth a’u defnyddio i hyrwyddo.
·
Bod
sbwriel yn dod i’r amlwg yn dilyn torri gwair a’r angen i gyd-gordio
trefniadau. Wedi derbyn cwynion o ran drain yn crafu ceir ar lonydd cul a
thractorau a ddefnyddir i dorri yn rhy lydan ac yn tynnu waliau i lawr. Dylid
ystyried defnyddio peiriannau torri clawdd mewn rhai ardaloedd cul.
·
Bod
agweddau yn newid o ran torri gwair gyda mwy o ystyriaeth i fioamrywiaeth. Yn
gefnogol i beidio â thorri os oedd yn dderbyniol o safbwynt diogelwch.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Bod
symudiad i wneud toriad llawn yn hwyrach yn y flwyddyn. Angen adnabod ardaloedd
penodol i hybu bioamrywiaeth gan gynnwys plannu. Edrychir ar y defnydd o
chwistrellwr i ladd chwyn gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio ysgubwr
yn lle.
·
Bod
gwrychoedd yn cael eu torri i fyny i uchder o 1 medr, cyfrifoldeb y perchennog
oedd y tyfiant uwchlaw hyn. Rhoddir ystyriaeth i ardaloedd penodol fel rhan o’r
adolygiad.
· Rhoddir sylw i sylwadau’r aelod. O ran casglu’r holl wair yn dilyn ei dorri, bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7