Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 10/03/2022 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (eitem 6)

6 CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR pdf eicon PDF 234 KB

YR AELOD CABINET – CYNGHORYDD DYFRIG SIENCYN

 

Diweddariad ar yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd i ymateb i’r heriau newid hinsawdd a natur a chamau eraill sydd yn ymarferol i’r Cyngor weithredu arnynt i’r dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

Cofnod:

Cyflwynwyd diweddariad gan Arweinydd y Cyngor yn adrodd ar yr hyn roedd y Cyngor yn ei wneud i ymateb i’r heriau newid hinsawdd a natur a chamau eraill sydd yn ymarferol i’r Cyngor weithredu arnynt i’r dyfodol.

 

Adroddwyd bod y Cabinet wedi mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur (a luniwyd gan dasglu a sefydlwyd gan y Cabinet – Bwrdd Newid Hinsawdd) ar 8 Mawrth 2022. Nodwyd bod y Bwrdd Newid Hinsawdd yn cynnwys Aelodau Cabinet a Phrif Swyddogion ac yn fwy diweddar gwahoddwyd Pencampwr Bioamrywiaeth a chynrychiolydd o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn aelodau sefydlog o’r Bwrdd.

 

Eglurwyd bod y Cynllun Argyfwng yn cael ei arwain gan Pennaeth yr Amgylchedd ond bod cyfrifoldeb ar bob adran yn y Cyngor i weithredu’r cynllun ynghyd a chyfraniadau gan gymunedau’r Sir. Amlygwyd bod sylw wedi ei wneud nad oedd cyfeiriad at fuddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn yn y cynllun, a derbyniwyd ymateb gan y Pennaeth Cyllid yn nodi bod camau sylweddol wedi eu gwneud yn y maes buddsoddi er nad oes rheolaeth uniongyrchol gan y Gronfa ar y buddsoddi.

 

Nodwyd mai’r her oedd cyrraedd targed net sero erbyn 2030. Derbyniwyd bod camau heriol i’w cyflawni ond bod y Cyngor yn benderfynol o gyrraedd y targed a osodwyd gan Llywodraeth Cymru. Amlygodd Pennaeth yr Amgylchedd bod y cynllun yn ddogfen fydd yn cael ei datblygu a’i haddasu’n rheolaidd gan nodi dau gam i’r cynllun: Cam 1 yw’r cynllun presennol sydd yn cynnwys sefydlu trefn briodol a chamau mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd er mwyn newid y gwasanaethau maent yn eu darparu’n uniongyrchol. Byddai cam 2 yn cael ei gyflwyno ar ôl proses ymgynghori ac yn cynnwys rhagor o wybodaeth am fwriad y Cyngor i gynghori a chefnogi gweithgareddau yn y gymuned ar faterion e.e., ynni mewn adeiladau, rheoli a defnydd tiroedd, ailgylchu, parthau llifogydd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a diolchwyd i’r Bwrdd am ymestyn yr aelodaeth. Cynigiwyd y dylid ystyried gwahodd cynrychiolwyr Arfon a Dwyfor-Meirionnydd yn Senedd Ieuenctid Cymru i fod yn aelodau o’r Bwrdd Newid Hinsawdd.. Nododd yr Arweinydd y byddai’n cyflwyno’r cynnig i’r Bwrdd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

·         Bod cyfle i Cyngor Gwynedd arwain y ffordd drwy ddylanwadu a chyflwyno’r cynllun yn effeithiol

·         Bod angen annog y 3ydd sector a’r sector breifat i ystyried addasiadau cyffelyb

·         Byddai’n fuddiol cael dadansoddiad costau a budd er mwyn dangos faint o arian gellir ei arbed ynghyd â’r lleihad mewn allyriadau carbon. Drwy nodi canran agos o ran effaith gellir annog y 3ydd sector ac unigolion preifat.

 

·         Bod modd adnabod adeiladau y gellid cyflwyno system gwresogi ddaearol

·         A roddir ystyriaeth i fuddsoddi mewn systemau dŵr poeth solar ynghyd â buddsoddi mewn systemau PV (Photovoltaic) i leihau ôl-troed carbon?

·         Bod angen cynnal archwiliad yn seiliedig ar garbon o adeiladau a cherbydau

·         Bod angen ystyried technoleg amgen e.e., niwclear, hydrogen. Yr Almaen yn buddsoddi mewn prosiectau hydrogen adnewyddadwy, a gynhyrchir drwy ddefnyddio dŵr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thrydan ac o ble daw’r cyflenwad trydan o ystyried  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6