8 Cais Rhif C22/0251/11/DA 23 Ffordd Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HY PDF 293 KB
Diwygiad
ansylweddol i'r cynlluniau a gymeradwywyd gan ganiatâd cynllunio C19/0224/11/LL
er mwyn caniatáu defnyddio gorchudd pvc-u ar edrychiad cefn yr estyniad yn lle
rendr gro chwip.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r
cais yn ddarostyngedig i’r amod isod: -
·
Cwblheir y diwygiad a ganiateir drwy hyn yn
llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun diwygiedig dyddiedig 03.05.22 a
gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac
mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au)
sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a
ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad
gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif
C19/0224/11/LL.
Cofnod:
Diwygiad ansylweddol i'r cynlluniau a gymeradwywyd gan ganiatâd cynllunio
C19/0224/11/LL er mwyn caniatáu defnyddio gorchudd pvc-u ar edrychiad cefn yr
estyniad yn lle rendr gro chwip
a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais diwygiad ansylweddol
ydoedd i’r cynlluniau a ganiatawyd gyda chaniatâd cynllunio C19/0224/11/LL er
mwyn caniatáu defnyddio gorchudd pvc-u ar edrychiad cefn yr estyniad yn lle
rendr gro chwip. Eglurwyd bod y tŷ pâr deulawr o fewn ardal breswyl sefydledig
i’r de-orllewin o ganol y ddinas ar ffurf rubanog gyferbyn a’r ffordd sirol
dosbarth III, Ffordd Belmont.
Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn berthynas agos i
gynghorydd Ward Dewi ym Mangor.
b) Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amod isod: -
·
Cwblheir y diwygiad a
ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun diwygiedig
dyddiedig 03.05.22 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn
y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes
amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y
diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn
cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio
rhif C19/0224/11/LL.